Cyfarfodydd

P-04-623 Wella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-623 Wella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb, o ystyried yr ymgysylltiad cadarnhaol rhwng y Gweinidog a'r deisebwyr.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-623 Gwella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i rannu ymateb y deisebwyr â'r Gweinidog a gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor am gynnydd y gwaith cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad.

 

 


Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-623 Wella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am ymateb gan y Gweinidog i sylwadau manwl ac ystyriol y deisebydd. 

 


Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-623 Wella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         Geisio sylwadau pellach gan y deisebwyr ar y pwyntiau penodol a godwyd yn y paragraff olaf yn llythyr y Gweinidog; ac

·         Ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn a yw pob awdurdod lleol yn cynnwys Safon Ansawdd Tai Cymru yn ei Gynlluniau Datblygu Lleol.