Cyfarfodydd

P-04-618 Diogelu Gwasanaethau Bancio mewn Cymunedau Hawdd eu Targedu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-618 Diogelu gwasanaethau bancio mewn cymunedau hawdd eu targedu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog basio sylwadau'r deisebydd ymlaen at y grŵp Strategaeth Cynhwysiant Ariannol.

 


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-618 Diogelu Gwasanaethau Bancio mewn Cymunedau Hawdd eu Targedu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i ofyn i'r ddeiseb gael ei hystyried fel rhan o waith y grŵp sy'n cael ei sefydlu i edrych ar y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol; a 

·         gofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Prif Weinidog.