Cyfarfodydd

P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am lythyr y Gweinidog, ond wrth wneud hynny, dangos bod y Pwyllgor yn bwriadu cau'r ddeiseb gan nad yw'n ymddangos bod llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i symud y mater yn ei flaen yn y Cynulliad hwn.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog am amserlen gadarn gan fod y Cynllun Cenedlaethol Cyllid Trafnidiaeth bellach wedi'i gyhoeddi.

 

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a oes amserlen gadarnach ar gyfer ystyried israddio statws cefnffordd yr A487 yn Aberystwyth.


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd eto i ofyn am eu barn ar lythyr y Gweinidog.