Cyfarfodydd

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2014

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (26 Mawrth 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2014: Sesiwn dystiolaeth 1

Syr Derek Jones – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru

Peter Ryland, Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Rhaglenni a Chyllid, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Bu’r Pwyllgor yn holi Llywodraeth Cymru’n fanwl ar ei Adroddiad Blynyddol ar Reoli Grantiau.

 

3.2     Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu nodyn ar:

·         y colledion posibl sy’n ddyledus o ganlyniad i sefydliadau sydd mewn diddymiad;

·         nifer y cwynion gan y trydydd sector am y ffordd y mae grantiau wedi’u gweinyddu, a’r achlysuron lle nad yw tri mis o rybudd cyn terfynu contract wedi’i roi;

·         nifer yr achosion a oedd wedi’u cynnwys yn yr archwiliad sampl, a lefelau’r diffyg cydymffurfio o fewn y sampl hwnnw;

·         y 35 o grantiau a ddaeth i ben yn 2013/14;

·         a yw pob un o’r Awdurdodau Lleol yn mynychu ac yn cyfrannu at Hyfforddiant Awdurdod Lleol a ddarperir gan CIPFA (drwy CLlLC) a Llywodraeth Cymru / Swyddfa Archwilio Cymru; a

·         y cyllid grant gwerth £22 miliwn sydd wedi’i neilltuo i’r GIG.