Cyfarfodydd

CLA495 - Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015

NDM5731 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2015.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Dim pwyntiau adrodd

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.50

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5731 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2015.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

9

0

46

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 16/03/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

CLA495 – Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'i gwnaed ar: Dyddiad heb ei nodi; Fe’i gosodwyd ar: 2 Mawrth 2015; Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2015

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn statudol ac roedd yn fodlon arno.