Cyfarfodydd

Ffyrdd o weithio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Dulliau o weithio: Trafodaeth ag Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ar waith y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad

PAC(4)-07-16 Papur 2

PAC(4)-07-16 Papur 3

 

Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafodwyd gwaith y Pwyllgor yn y Pedwerydd Cynulliad ag Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, ac edrychwyd ymlaen at y Pumed Cynulliad.

4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i ymchwilio ymhellach a yw CCAUC yn cael gwybodaeth ariannol gan brifysgolion yn ystod y flwyddyn sy'n codi pryderon i Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Dulliau o weithio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau sylwadau'r Ysgrifennydd Parhaol.

 


Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Dulliau o weithio: Asesu dulliau o weithio

PAC(4)-17-14(papur 3)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon.  Gofynnodd y Cadeirydd i'r Aelodau anfon unrhyw sylwadau at y clerc.