Cyfarfodydd

Recruitment principles

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/02/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Egwyddorion recriwtio

MB 02-15 Papur 2 – Egwyddorion recriwtio

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Croesawyd Lowri Williams i'r cyfarfod i drafod egwyddorion recriwtio drafft sydd wedi'u hanelu at gynyddu tryloywder yn y prosesau recriwtio. Roedd y Cynulliad wedi ymrwymo i recriwtio ar sail teilyngdod, tegwch a bod yn agored ac roedd yr egwyddorion, a ddyfeisiwyd yn dilyn archwiliad mewnol o recriwtio, yn darparu fframwaith clir ar gyfer polisïau, canllawiau ac arferion recriwtio. 

Croesawodd y Bwrdd Rheoli'r ddogfen fel un a oedd y cynnig eglurder a diogelwch ar gyfer recriwtio yn y dyfodol a chytunodd ar y cynnwys a'r arddull. Byddai gwaith pellach yn dilyn er mwyn adolygu'r gyfres o bolisiau Adnoddau Dynol ac i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r egwyddorion.

Roedd disgwyl i'r ddogfen gael ei hystyried gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn eu cyfarfod ar 9 Chwefror.

Camau i’w cymryd:

·      Lowri i ychwanegu 'egwyddorion' at y pwyntiau bwled yn 3.2

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)

Adroddiad Archwilio Mewnol - Recriwtio

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Rheoli drafodaeth gychwynnol ar ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad archwilio terfynol. Croesawodd y Bwrdd yr adroddiad a chytunodd i'w ystyried yn fwy trylwyr yn y flwyddyn newydd, ar ôl iddo gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg ac ar ôl i'r Pwyllgor hwnnw fynegi barn arno.