Cyfarfodydd
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2016-17
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 26/02/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Gwaith craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfrifon 2016-17 - ymateb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am
waith craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfrifon 2016-17, yn enwedig y
ddau argymhelliad yn ei adroddiad terfynol yn ymwneud â’r Comisiwn.
Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i
adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Cyfarfod: 17/05/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
6 Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17 – tanwariant ym Mhenderfyniad y Bwrdd Taliadau
Papur 5 – Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad at y Cadeirydd - tanwariant ym
Mhenderfyniad y Bwrdd Taliadau – 28 Mawrth 2017
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
Cofnodion:
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Comisiwn yn gofyn am ragor o
wybodaeth a gwahodd y Prif Weithredwr newydd i un o gyfarfodydd y Pwyllgor.
Cyfarfod: 30/06/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Strategaeth Ddrafft Cyllideb y Comisiwn ar gyfer y Pumed Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cyfarfod: 19/11/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17: Trafod yr ymateb
Papur 1 –Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan y
Dirprwy Lywydd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn
aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
2.2 Nododd y Pwyllgor ymateb y Comisiwn.
Cyfarfod: 11/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016/17
NDM5868 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb
Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17, fel y nodir yn nhabl 1, 'Cyllideb Comisiwn
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2016-17', a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 4 Tachwedd 2015 ac sydd i'w hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan
Reol Sefydlog 20.26(ii).
Dogfennau Ategol:
Dogfen
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad
Adroddiad
y Pwyllgor Cyllid
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.31
Gohiriwyd y bleidlais
ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5868 David Melding (Canol
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer
2016-17, fel y nodir yn nhabl 1, 'Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol
Cymru ar gyfer 2016-17', a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 4 Tachwedd 2015 ac
sydd i'w hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog
20.26(ii).
Cynhaliwyd pleidlais
ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
4 |
47 |
Derbyniwyd y Cynnig.
Cyfarfod: 21/10/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft 2016-17
Eitem lafar.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Cafodd y Comisiwn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft y
Comisiwn, a oedd wedi ei gyhoeddi.
Trafododd y Comisiynwyr brif argymhellion yr adroddiad a chytunwyd i
dderbyn pob un ohonynt ac ymateb yn gadarnhaol i'r Pwyllgor Cyllid.
Cyfarfod: 07/10/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)
1 Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17: Trafod yr adroddiad drafft
Papur 1 – Adroddiad drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (1/1)
Cofnodion:
1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai newidiadau.
Cyfarfod: 01/10/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)
9 Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17 Sesiwn dystiolaeth 1
David Melding AC, Comisiynydd y Cynulliad Dros Dro
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad
Nicola Callow, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ariannol
Papur 5 – Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17
Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil
Dogfennau ategol:
- FIN(4)-20-15 P5 Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2016-17, Eitem 9 PDF 2 MB
- Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil (Adran 5 yn unig yn Gymraeg) , Gweld rhesymau dros gyfyngu (9/2)
Cofnodion:
9.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn Aelod
o Gomisiwn y Cynulliad.
9.2 Bu’r Aelodau yn holi David Melding AC, y Dirprwy Lywydd a Chomisiynydd
y Cynulliad Dros Dro, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, a
Nicola Callow, y Cyfarwyddwr Cyllid yn fanwl am gyllideb ddrafft Comisiwn y
Cynulliad 2016-17.
9.3 Datganodd Jocelyn Davies AC y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol
Sefydlog 17.24A:
·
Aelod yn rhoi’r gorau i’w sedd ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad.
Cyfarfod: 01/10/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11)
Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
11.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn
Aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
11.2 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
Cyfarfod: 17/09/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb 2016-17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Ystyriodd y Comisiynwyr ddrafft terfynol dogfen y gyllideb ddrafft ar gyfer
2016-17. Roeddent yn teimlo bod y ddogfen yn adlewyrchu'r strategaeth a'r dull
gweithio yr oeddent wedi cytuno arnynt cyn toriad yr haf.
Cytunodd y Comisiynwyr ar y drafft i'w osod, gan ddiolch i'r swyddogion am
yr holl waith a oedd wedi'i wneud er mwyn paratoi.
Cyfarfod: 09/07/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb Ddrafft 2016-17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
- Cyfyngedig 39
Cofnodion:
Cyflwynodd
Nicola Callow ddrafft cyntaf cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2016-17 i’r
Comisiynwyr.
Croesawodd
y Comisiynwyr y ddogfen, yr oeddent yn teimlo ei bod yn adlewyrchu’n dda
strategaeth y gyllideb a gytunwyd ganddynt ym mis Ebrill.
Ffocws dogfen gyllideb 2016-17 yw:
• Cefnogi’r galwadau
cynyddol a wynebir gan y Cynulliad, gan gynnwys y rhaglen gynyddol o waith
deddfwriaethol;
• Darparu rhaglen newydd ac
estynedig o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer yr Aelodau, gan gynnwys Aelodau
Cynulliad newydd a’r rhai sy’n dychwelyd, yn seiliedig ar werthusiad o
ganlyniadau DPP hyd yma;
• Cefnogi newid
cyfansoddiadol, y disgwylir iddo ddigwydd ar raddfa fawr yn sgil cyhoeddiad
Deddf Cymru 2014 a chyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi 2015;
• Parhau â gwaith
ymgysylltu a hyrwyddo’r Comisiwn, gyda phwyslais ychwanegol i adlewyrchu’r
datblygiadau cyfansoddiadol newydd;
• Gwerth am arian - mae gan
y Comisiwn record gref o ran cyflawni gwerth am arian law yn llaw â’i nodau a’i
flaenoriaethau strategol, a byddwn yn awyddus i adeiladu ar hyn o ddechrau’r
Pumed Cynulliad; a
• Datblygu gwasanaeth
technolegol – parhau i newid a gwella Gwasanaethau’r Cynulliad a’r ffyrdd rydym
yn cefnogi Aelodau’r Cynulliad i gyflawni eu rolau.
Cytunodd y
Comisiynwyr, yn ogystal â diweddaru’r drafft i adlewyrchu canlyniad Adolygiad o
Wariant y DU a’r Gyllideb, y byddai’n bwysig bod y drafft nesaf yn cynnwys
llawer o ddiagramau a darluniau er mwyn sicrhau bod yr un lefel o eglurder a
gyflwynwyd yng nghyllideb 2015-16 yn cael ei gyflawni eto eleni.
Cytunodd y
Comisiwn i dderbyn dogfen wedi’i diweddaru i’w hystyried ym mis Medi, cyn bod
angen i’r gyllideb ddrafft gael ei gosod.
Cyfarfod: 23/04/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth Cyllideb Ddrafft 2016-17
Papur 2
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
Ystyriodd y
Comisiynwyr bapur a oedd yn amlinellu'r dull gweithredu a'r opsiynau a awgrymir
ar gyfer Cyllideb 2016-17 y Comisiwn.
Cytunwyd i ddefnyddio dull gweithredu cytbwys lle: bydd cyllideb
weithredu'r Comisiwn ar gyfer gwasanaethau'r Cynulliad yn adlewyrchu'r
newidiadau ym Mloc Cymru; bydd effaith ariannol penderfyniadau a wnaed gan y
Bwrdd Taliadau'n cael ei ariannu'n llawn; a bydd costau eithriadol sylweddol yn
parhau i gael eu trin ar wahân, felly ar gyfer 2016-17, bydd arian ar gyfer
gwariant yn ymwneud â'r etholiad a chostau diddymu.
2016-17 fydd blwyddyn gyntaf y Pumed Cynulliad, a theimlai'r Comisiynwyr
fod angen i ddull gweithredu strategaeth y gyllideb ddarparu digon o
hyblygrwydd er mwyn sicrhau bod gan y Comisiynwyr newydd y cwmpas ariannol i
fynd ar drywydd eu nodau a'u blaenoriaethau eu hunain pan fyddant yn cymryd y
swydd.
Roedd y dull gweithredu y cytunodd y Comisiynwyr arno'n cynnwys
canolbwyntio cronfeydd y Comisiwn yn 2016-17 ar y meysydd canlynol:
• Rhaglen o waith deddfwriaethol - ni ddisgwylir
i'r momentwm y tu ôl i'r llwyth gwaith deddfwriaethol presennol leihau ar ôl yr
etholiad. Disgwylir i faint y gweithgarwch deddfwriaethol barhau i fod yn uchel
neu hyd yn oed dyfu ymhellach wrth i ddeddfwriaeth a arweinir gan Aelodau
Cynulliad gael ei chyflwyno. Mae hyn yn newid o'i gymharu â dyddiau cynnar y
Pedwerydd Cynulliad, a bydd angen cefnogaeth.
• Rhaglen datblygiad proffesiynol yr Aelodau i
fodloni anghenion aelodaeth newydd a newidiol.
Mae hyn yn adeiladu ar y rhaglen flaenorol gan ddarparu rhaglen gynefino
briodol a mynediad at hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer
Aelodau.
• Y gwaith cynllunio i gefnogi'r raddfa o newid
cyfansoddiadol a ragwelir, sy'n deillio'n arbennig o Fesur Cymru a
chyhoeddiadau Dydd Gŵyl Dewi.
• Gwerth am arian - mae gan y Comisiwn hanes
cryf o ran darparu gwerth am arian er mwyn mynd ar drywydd ei nodau a'i
flaenoriaethau ehangach a byddwn yn awyddus i adeiladu ar hyn o ddechrau'r
Pumed Cynulliad.
Cyfarfod: 23/03/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Strategaeth Cyllideb Ddrafft 2016-17 - Eitem lafar
Cofnodion:
Dywedodd
Nicola Callow bod strategaeth gyllideb ddrafft yn cael ei hystyried gan y Bwrdd
Buddsoddi ac Adnoddau.
Byddai'r
gyllideb hon ar gyfer blwyddyn gyntaf y pumed Cynulliad a byddai angen digon o
hyblygrwydd ariannol i sicrhau bod y Comisiynwyr newydd yn gallu mynd ar
drywydd eu hamcanion a'u blaenoriaethau. Mae'r strategaeth yn nodi dull gweddol
ddarbodus ac yn tynnu sylw at y dewisiadau ariannol sydd ar gael.
Yn dilyn
strategaeth fuddsoddi'r Comisiwn, cytunwyd y byddai'r cyllidebau sy'n weddill
ar gyfer y Comisiwn hwn yn adlewyrchu'r symudiad ym Mloc Cymru. Fodd bynnag,
heb ffigurau dangosol ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru, ychydig iawn o
wybodaeth oedd ar gael i fod yn sail i gyllideb y Comisiwn. Y cynnig, felly,
oedd i gyllideb weithredol y Comisiwn ar gyfer 2016-17 adlewyrchu gostyngiad o
1.1% mewn termau real o'i gymharu â 2015-16, ond bod penderfyniadau ariannol y
Bwrdd Taliadau yn cael eu hariannu'n llawn.
Byddai
costau eithriadol sylweddol yn parhau i gael eu trin fel arian ychwanegol, gan
gynnwys y gyllideb a neilltuwyd ar gyfer gwariant sy'n gysylltiedig â'r
etholiad a chostau'r diddymiad. Byddai unrhyw arian dros ben yn cael ei
ddychwelyd i Gronfa Gyfunol Cymru.
Bydd y
Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn ystyried y strategaeth gyllideb ddrafft ar 26
Mawrth, cyn ei gyflwyno i'r Comisiwn ar 23 Ebrill.