Cyfarfodydd

Cronfa Byw'n Annibynnol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/03/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymgynghoriad ar drefniadau gofal a chymorth yn y dyfodol ar gyfer y sawl sy'n cael taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.  

 


Cyfarfod: 04/02/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymgynghoriad ar drefniadau gofal a chymorth yn y dyfodol ar gyfer pobl sy’n cael arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol: gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.4a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 04/02/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

Ymgynghoriad ar drefniadau gofal a chymorth yn y dyfodol ar gyfer pobl sy’n cael arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol: ystyried y llythyr drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chytunwyd ar y llythyr hwnnw, yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 21/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymgynghoriad ar drefniadau gofal a chymorth yn y dyfodol ar gyfer pobl sy’n cael arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol: sesiwn friffio ffeithiol.

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr - Yr Is-adran Cyflawni Polisïau ar gyfer Plant ac Oedolion, Llywodraeth Cymru  

 

Gareth Griffiths, Pennaeth Ffioedd a Thaliadau Uniongyrchol - Yr Is-adran Cyflawni Polisïau ar gyfer Plant ac Oedolion, Llywodraeth Cymru  

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Griffiths. Roedd Stephen Gulliford yn dirprwyo ar ei ran.

2.2 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru am yr ymynghoriad ar drefniadau gofal a chymorth yn y dyfodol ar gyfer pobl sy’n cael arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol.

2.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu’r canlynol ar gyfer y Pwyllgor:

·         astudiaethau achos sy’n dangos sut y bydd lefel y gofal a’r gefnogaeth a ddarperir ar hyn o bryd i dderbynwyr y Gronfa Byw’n Annibynnol yn wahanol i’r hyn a ddarperir drwy daliadau uniongyrchol;

·         cadarnhad ynghylch a yw’r cyfrifoldeb dros y GBA wedi’i drosglwyddo o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru drwy orchymyn trosglwyddo swyddogaeth; ac

·         eglurhad ynghylch a yw cymhwysedd deddfwriaethol wedi’i drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i alluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth a all fod yn ofynnol yn dilyn trosglwyddo cyfrifoldeb dros y Gronfa Byw’n Annibynnol i Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 21/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ymgynghoriad ar drefniadau gofal a chymorth yn y dyfodol ar gyfer pobl sy’n cael arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol: ystyried y dystiolaeth.

Cofnodion:

4.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo’r Gronfa Byw’n Annibynnol o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru ar 1 Gorffennaf at 2015.