Cyfarfodydd

P-04- 614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Aros am sylwadau pellach gan y deisebydd;

·         Ystyried cau’r ddeiseb gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai’r Pwyllgor ychwanegu unrhyw werth pellach.

 


Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

  • y deisebydd yn gofyn am sylwadau ar lythyr y Gweinidog; a'r
  • Gweinidog yn gofyn am eglurder ar y gwahaniaeth ymarferol rhwng y gwasanaeth 'dosbarth cyntaf' a ddarparwyd yn flaenorol a'r gwasanaeth 'ddosbarth busnes' a ddarperir nawr.