Cyfarfodydd

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr oddi wrth Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru (19 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/09/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Ystyried ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(4)-22-15 Papur 2

PAC(4)-22-15 Papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor a sylwadau'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gylch.

4.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurhad ynglŷn ag ymateb y llywodraeth i argymhellion yr Adroddiad ac esboniad o'u rhesymau dros newid eu polisi ar godi sgriniau o amgylch damweiniau, ar yr A55, i atal modurwyr rhag edrych ar ddamweiniau.

 


Cyfarfod: 23/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (15 Mehefin 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-16-15 Papur 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar rai mân newidiadau. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y mis.

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Steve Martin, Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru (21 Mai 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (29 Ebrill 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (24 Ebrill 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (28 Ebrill 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Gwybodaeth ychwanegol gan y Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: y prif faterion dan sylw

PAC(4)-12-15 Papur 6

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Aelodau yn ystyried a thrafod y papur materion allweddol, a nodwyd y bydd y Clercod yn drafftio adroddiad i’w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 5

PAC(4)-10-15 papur 1

PAC(4)-10-15 papur 2

PAC(4)-10-15 papur 3

Briff Ymchwil

 

James Price - Llywodraeth Cymru Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru

Sheena Hague - Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli'r Rhwydwaith, Llywodraeth Cymru

Andy Falleyn - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwi Seilwaith, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Sheena Hague, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Rhwydwaith, ac Andy Falleyn, Dirprwy Gyfarwyddwr, Darparu Isadeiledd, Llywodraeth Cymru ar yr ymchwiliad i werth am arian y buddsoddiad mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd.

 

3.2 Cytunodd James Price i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:

·       ystyried yr awgrym bod gwallau yn y wybodaeth a ddarparwyd am yr A55 ar wefan Traffig Cymru;

·       darparu nodyn ar faint o waith ffordd yn Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, gan gynnwys gwaith dros nos a'r amser ar gyfer darparu'r cynllun;

·       darparu nodyn ar nifer y cwynion ynghylch gwaith ffordd, gan gynnwys canran y gwaith ffordd sy'n destun cwynion, a chyflwyno proses gofnodi fwy rheolaidd a ffurfiol;

·       cadarnhau pryd y dechreuodd y gwaith o baratoi'r Strategaeth Gwaith Ffordd newydd a'r rhesymau pam ei fod wedi cymryd pedair blynedd i'w datblygu; ac

·       ymchwilio i'r anawsterau diweddar yn sgil y gwaith ffordd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a sut y mae hyn yn ymwneud â chydweithredu trawsffiniol gydag Awdurdodau Priffyrdd Lloegr, gan gynnwys yr Asiantaeth Priffyrdd / Highways England.

 

 


Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Gwybodaeth ychwanegol gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Gwybodaeth ychwanegol gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (26 Mawrth 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan yr Asiantaeth Briffyrdd (24 Mawrth 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 4

Richard Jones, Pennaeth Gwasanaeth, Asiant Cefnffyrdd De Cymru

Dave Cooil, Pennaeth Gwasanaeth, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

Ian Hughes, Rheolwr Busnes a Gweithrediaeth Statudol, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ynglŷn â'i ymchwiliad i werth am arian buddsoddi mewn traffyrdd a chefnffyrdd. Cytunodd yr Asiantau Cefnffyrdd i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am gydgysylltu'r gwaith o gynnal a chadw a gwella traffyrdd a chefnffyrdd a heolydd lleol, a nifer y blynyddoedd na chafwyd cadarnhad ar gyfer eu dyraniad o'r gyllideb tan ar ôl 1 Ebrill.

 


Cyfarfod: 17/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod y dystiolaeth:

Cofnodion:

8.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 17/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 3

Rhodri-Gwynn Jones, Cyfarwyddwr, Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru

David Meller, Prif Beiriannydd, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (Cangen Gogledd Cymru)

Russell Bennett, Cadeirydd, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (Cangen De Cymru)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru a Changhennau Gogledd a De Cymru Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant yn ei ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd.

 

6.2     Cytunodd Russell Bennett o Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant, Cangen De Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am fuddsoddi preifat.

 


Cyfarfod: 17/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 2

Yr Athro Nigel Smith, Ysgol Peirianneg Sifil, Prifysgol Leeds

Kris Moodley, Prifysgol Leeds

Yr Athro Bob Lark, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Prifysgol Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan academyddion o Brifysgol Leeds a Phrifysgol Caerdydd yn ei ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd.

 


Cyfarfod: 03/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Papur Briffio'r Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Darparodd Swyddfa Archwilio Cymru a Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr Aelodau gyda diweddariad ar yr ymgynghoriad a'r dull ymholi amlinellol.

 


Cyfarfod: 03/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod y dystiolaeth:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

6.3     Cytunodd y Pwyllgor:

·         i ofyn am ffigyrau ar lefelau staffio a gwybodaeth yn ymwneud â rheoli traffig a threfniadau gwydnwch gan Asiantau Cefnffyrdd;

·         gofyn am wybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau cefnffyrdd mawr sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, ei ddull o flaenoriaethu cynlluniau yn y dyfodol, a mwy o fanylion am wariant Asiantau Cefnffyrdd, rhaglenni gwaith a chyllidebau yn y dyfodol;

·         ysgrifennu at Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) i ofyn am wybodaeth am reoli digwyddiadau a defnyddio sgriniau; ac

·         ysgrifennu at Highways England i ofyn am wybodaeth am ei ddull o gynnal a gwella'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn Lloegr, gan gynnwys manteision disgwyliedig y strwythur a'r dull gweithredu newydd, a sut y bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd cyllid.

 

6.4     Cytunodd y Gwasanaeth Ymchwil i ddarparu eglurhad ar goridorau'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) yng Nghymru a'r DU a gwybodaeth am Highways England.

 

 

 


Cyfarfod: 03/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 1

Simon Higgins – Rheolwr Ardal,  Road Haulage Association Ltd

Malcolm Bingham – Pennaeth Polisi Priffyrdd, Y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Road Haulage Association Ltd a Freight Transport Association ar ei ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd.

 


Cyfarfod: 13/01/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Cwmpas yr Ymchwiliad i Draffyrdd a Chefnffyrdd: Gwerth am Arian

Briff Ymchwil - Gwerth am Arian Traffyrdd a Chefnffyrdd (Saesneg yn Unig)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gwmpas yr ymchwiliad i draffyrdd a chefnffyrdd: gwerth am arian, a chytunodd i ysgrifennu at randdeiliaid i ofyn am eu barn.