Cyfarfodydd

Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru: Llythyr gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru (3 Tachwedd 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-25-15 Papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd yr Aelodau y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurhad ar yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 29/09/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(4)-24-15 Papur 6

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wrth y Pwyllgor y byddai'n ysgrifennu at y Cadeirydd yn ddiweddarach yr wythnos hon gyda'i sylwadau.

 


Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Diwygio Lles: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-21-15 Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn.

 


Cyfarfod: 07/07/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Diwygio Lles: Dogfen Bolisi Taliadau Tai Dewisol Cymru Gyfan

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Diwygiad Lles: Llythyr gan June Milligan (18 Mehefin 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Diwygiad Lles: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Diwygiad Lles: Gwybodaeth ychwanegol gan Cartrefi Cymunedol Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Diwygiad Lles: Trafod y materion allweddol

PAC(4)-18-15 Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y papur materion allweddol ac awgrymodd nifer o faterion yr hoffai eu gweld yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

6.2 Cytunodd yr Aelodau i ofyn am gopi o'r fframwaith y cytunwyd arno ar gyfer gweinyddu Taliadau Tai Dewisol gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Diwygiad Lles: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Tai Cymru a Gorllewin Lloegr (Mai 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Diwygiad Lles: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 5

PAC(4)-15-15 Papur 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

June Milligan - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru

John Howells - Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Sara Ahmad - Economegydd, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru; John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru; a Sara Ahmad, Economegydd, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, ar ei ymchwiliad i ddiwygiad lles.

3.2 Cytunodd June Milligan i wneud y canlynol:

·       Anfon nodyn ynghylch y safleoedd y mae awdurdodau lleol wedi'u rhyddhau ar gyfer datblygu tai;

·       Gwneud sylw ar sefyllfa bresennol y cymdeithasau tai yn newid eu polisïau dyraniadau fel nad oes gwaharddiad ar denantiaid sydd â rhent fel ôl-ddyledion yn seiliedig ar ddyledion budd-dal tai;

·       Gwneud sylw ar effaith y cap budd-dal is arfaethedig yng Nghymru;

·       Dadansoddiad o ardal awdurdodau lleol o dai yr effeithir arnynt (pan fo'r wybodaeth hon ar gael) gan y cap budd-dal is arfaethedig.

 

 

 

 


Cyfarfod: 19/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Diwygiad Lles: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 19/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Diwygiad Lles: Sesiwn Dystiolaeth 3

PAC(4)-14-15 papur 1 – TPAS Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Steve Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr, Tenantiaid Cymru

David Lloyd – Cyfarwyddwr, TPAS Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr, Tenantiaid Cymru a David Lloyd, Cyfarwyddwr, TPAS Cymru ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.

3.2 Cytunodd Steve Clarke i anfon ffigurau am nifer y tenantiaid dan 21 oed sydd ar hyn o bryd yn meddiannu eiddo un a dwy ystafell wely.

3.3 Pan oedd yr Aelodau'n ystyried y dystiolaeth a gafwyd, gofynnwyd i Steve Clarke ddarparu nodyn ynglŷn â pham ei fod yn credu y dylai gweinyddu budd-dal tai gael ei ddatganoli. 

 


Cyfarfod: 19/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 4

PAC(4)-14-15 papur 2 – Cartrefi NPT

PAC(4)-14-15 papur 3 – Tai Wales & West

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Jim McKirdle - Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Linda Whittaker - Prif Weithredwr, Cartrefi NPT

Claire Maimone - Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Cartrefi NPT

Steve Porter – Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Tai Wales & West

Mike Halloran – Rheolwr Tai, Tai Wales & West

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Linda Whittaker, Prif Weithredwr, a Claire Maimone, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Cartrefi Castell-nedd Port Talbot (NPTHomes); Steve Porter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, a Mike Halloran - Rheolwr Tai, Tai Wales & West ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.

4.2 Cytunodd Steve Porter i anfon manylion am faint o'r 200 o gartrefi sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd fydd yn dai un neu ddwy ystafell wely, a'r hyn y mae hynny'n cyfateb iddo fel canran y tai y mae Tai Wales & West yn eu hadeiladu ar hyn o bryd. Hefyd, faint o'r 1000 o gartrefi arfaethedig sydd i'w hadeiladu yn ystod y pum mlynedd nesaf fydd yn dai un neu ddwy ystafell wely.

4.3 Cytunodd Jim McKirdle i ddarparu nodyn ar y canlynol:

·       polisi'r awdurdodau lleol ar gyfer trosglwyddo tai pan fydd gan denant ôl-ddyledion tai. Pan oedd yr aelodau'n ystyried y dystiolaeth a gafwyd, gofynnwyd am gael gweld copi o'r cytundeb Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn.

·       pa ddau awdurdod lleol sydd heb ymrwymo i'r cytundeb.

·       un ar ddeg awdurdod lleol sydd â chynlluniau i adeiladu tai cymdeithasol gan gynnwys y nifer arfaethedig o dai y maent yn dymuno eu hadeiladu.

·       ffigurau ynglŷn â nifer y tenantiaid ag anableddau sydd wedi cael eu heffeithio a'u hail-leoli o ganlyniad i'r polisi.

·       a yw awdurdodau lleol yn ystyried Lwfans Byw i'r Anabl wrth ystyried Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn.

 

 

 


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 1

PAC(4)-13-15 papur 1 - Cartrefi Cymunedol Cymru

PAC(4)-13-15 papur 2 - Sefydliad Tai Siartredig Cymru (CIHC)

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Sioned Hughes – Cyfarwyddwr Polisi ac Adfywio, Cartrefi Cymunedol Cymru

Paul Langley – Ymgynghorydd Uwch, Cartrefi Cymunedol Cymru

Helen Northmore – Cyfarwyddwr, Sefydliad Tai Siartredig Cymru (CIHC)

Hayley Selway – Pennaeth Tai a Gwasanaethau Adeiladu ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg (aelod o Fwrdd CIHC)

CIHC Board)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sioned Hughes, Cyfarwyddydd Polisi ac Adfywio, a Paul Langley, Uwch-gynghorydd yn Cartrefi Cymunedol Cymru; Helen Northmore, Cyfarwyddwr, Sefydliad Tai Siartredig Cymru (CIHC) a Sandra Alexander, Rheolwr Incwm Tai, Cyngor Bro Morgannwg ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.

 

3.2 Cytunodd Sioned Hughes i anfon rhagor o wybodaeth am:

·       yr ymagwedd wahanol a gymerwyd yn Lloegr tuag at apeliadau

·       nifer y cartrefi yn y sector rhentu sydd wedi eu hisosod yng Nghymru

·       nifer y bobl ag anableddau sy'n cael eu heffeithio gan y cymhorthdal ​​ystafell sbâr

·       tystiolaeth o'r ffordd y mae cymdeithasau tai yn parhau i fod heb ddiweddaru eu polisïau trosglwyddo i sicrhau nad yw ôl-ddyledion yn ymwneud â diwygio lles yn rhwystr i symud i gartrefi llai o faint.

 

 

 

 


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Diwygiad Lles: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 2

PAC(4)-13-15 papur 3 - Shelter Cymru

PAC(4)-13-15 papur 4 - Cyngor ar Bopeth Cymru  Cyngor ar Bopeth Cymru 

 

John Puzey – Cyfarwyddwr, Shelter Cymru

Jennie Bibbings – Rheolwr Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru

Lindsey Kearton – Swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru  Cyngor ar Bopeth Cymru 

Elle McNeil, Swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Puzey, Cyfarwyddwr a

Jennie Bibbings, Rheolwr Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru; a

Lindsey Kearton, Swyddog Polisi ac Elle McNeil, Swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.

 

 


Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Rheoli effaith y newidiadau i ddiwygiadau lles: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(4)-04-15 Papur 5 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(4)-04-15 Papur 6 - Papur Cwmpasu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Reoli Effaith y Newidiadau i Ddiwygiadau Lles.

 


Cyfarfod: 13/01/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Sesiwn Friffio gyda Swyddfa Archwilio Cymru ar Reoli Effaith Newidiadau Diwygio Lles

PAC(4)-01-15 Papur 2 - Swyddfa Archwilio Cymru: Rheoli Effaith Diwygiadau Lles ar Denantiaid Tai Cymdeithasol yng Nghymru

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar reoli effaith newidiadau diwygio lles ar denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru, a nododd bod y Cadeirydd wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad.

 

5.2 Datganodd Julie Morgan fuddiant am fod ei merch yn cael ei chyflogi gan Shelter Cymru.