Cyfarfodydd

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arloesi Meddygol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Arloesi Meddygol

NDM5680 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdyd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arloesi Meddygol sy'n ymwneud â thrin a lliniaru clefyd, salwch, anaf, anabledd ac anhwylder meddwl; darparu gwasanaethau iechyd; llywodraethu clinigol a safonau gofal iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(ii).

 

Gellir gweld y Bil yn:

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/medicalinnovation.html

 

Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.05

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5680 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arloesi Meddygol sy'n ymwneud â thrin a lliniaru clefyd, salwch, anaf, anabledd ac anhwylder meddwl; darparu gwasanaethau iechyd; llywodraethu clinigol a safonau gofal iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

0

0

54

54

Gwrthodwyd y cynnig.


Cyfarfod: 29/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 12)

12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arloesi Meddygol: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 21/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Arloesi Meddygol: ystyried y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar ei ystyriaeth o’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arloesi Meddygol a chytunwyd arno, yn amodol ar fân newidiadau.