Cyfarfodydd

CLA468 - Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014

NDM5650 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2014.

 

Dogfennau Ategol

Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.43

 

NDM5650 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 01/12/2014 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 CLA468 - Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'i gwnaed ar: Dyddiad heb ei nodi; Fe’u gosodwyd ar: Dyddiad heb ei nodi; Yn dod i rym ar: 22 Ionawr 2015

 

CLA(4)-30-14 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(4)-30-14 – Papur 3 – Rheoliadau

CLA(4)-30-14 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.