Cyfarfodydd

P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb.

 

 

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ddod â llythyr Ms Gibson at sylw'r Gweinidog i sicrhau ei bod yn ymwybodol o'r sefyllfa; ac
  • ysgrifennu datganiad cyhoeddus yn cefnogi buddiannau Garth Celyn.

 

Datganodd Bethan Jenkins AC fuddiant yn y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ystyried y mater o bosibl fel rhan o'i ystyriaeth o'r Bil Treftadaeth (Cymru) arfaethedig. 

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon a sylwadau pellach gan y deisebydd ac eraill. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am farn y Dirprwy Weinidog ar sylwadau pellach y deisebydd ac eraill.