Cyfarfodydd

Corporate Risk

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/01/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Risgiau Corfforaethol

Cofnodion:

Dywedodd Gareth Watts y byddai'r gofrestr risg gorfforaethol yn cael ei chyflwyno i ACARAC ym mis Chwefror a chytunodd y Bwrdd nad oedd angen adolygiad dwfn gan ACARAC ar yr achlysur hwn.

 

 


Cyfarfod: 07/12/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Risg Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4
  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7
  • Cyfyngedig 8
  • Cyfyngedig 9

Cofnodion:

Rhoddodd Dave Tosh amlinelliad i’r Bwrdd o’r adolygiad risgiau corfforaethol cyfredol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg, a’r gofrestr wedi’i diweddaru, a gwahoddodd y Penaethiaid Gwasanaethau i roi gwybod am unrhyw risgiau corfforaethol newydd a nodwyd gan Hyrwyddwyr Risg, neu am newidiadau i’r gofrestr o risgiau cyfredol.

O ran y risg presennol mewn cysylltiad â’r broses Brexit a goblygiadau gadael yr UE, cyfarfu’r Grŵp Llywio Newid Cyfansoddiadol ar 6 Rhagfyr ac amlinellodd gynlluniau’r Gweithgor Brexit i gynllunio senarios ym mis Ionawr, a byddai hyn yn cyfrannu at y gofrestr risg a’r prosesau cynllunio corfforaethol.

Nododd y Bwrdd newidiadau i’r gofrestr yn dilyn yr adolygiad diwethaf, a thrafododd ddau risg newydd a amlinellir ar ffurf Risg ar Dudalen (ROAP). Cydnabuwyd nad oedd yr adolygiad capasiti ROAP yn nodi’r holl reolaethau sydd ar waith, ac roedd Gareth Watts a Kathryn Hughes yn ystyried a ddylid darparu disgrifiad manylach. Fodd bynnag, fel cofnod lefel gyntaf, roedd yn darparu crynodeb ar gyfer canolbwyntio ar risg a lliniaru risg.

Roedd y ROAP sy’n cofnodi’r risg o aflonyddu yn nodi’r gwaith presennol neu waith sydd ar y gweill, ynghyd ag amcanion tymor hwy i’w dilyn. Disgrifiodd Craig Stephenson gymhlethdod y gwaith o alinio pob elfen o dan un cod, a’r effeithiau ar amserlenni a busnes y Cynulliad, ac y dylai’r rhain gael eu hystyried yn y risg, ynghyd â sut y cânt eu trin. Argymhellodd y Bwrdd y dylid cyfathrebu’n ehangach am yr adnoddau sydd ar gael, drwy arddangos arwyddion syml o gwmpas yr adeilad.

Cytunodd y Bwrdd Rheoli fod y ddau risg i gael eu hychwanegu at y gofrestr gorfforaethol.

Trafododd y Bwrdd y gwaith o reoli’r risgiau rhyng-gysylltiedig o ran diwygio a newid cyfansoddiadol, capasiti a phwysau ariannol, a nododd y byddai’r adolygiad capasiti yn cynorthwyo i ddarparu rhai atebion. Cyflwynwyd papur cryno i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ACARAC) i roi sicrwydd iddo, a chroesawodd y Pwyllgor y papur, a chafwyd sicrwydd yn ei sgîl am y camau a gymerwyd i reoli proffil risg cymhleth o’r fath. Cytunodd y Bwrdd fod y papur yn darparu cofnod defnyddiol a nodyn cyfathrebu defnyddiol i’r staff.

CAMAU I’W CYMRYD:

·                Y Tîm Llywodraethu i adolygu templed y Risg ar Dudalen (ROAP);

·                Craig Stephenson i drafod arwyddion gyda’r gweithgor;

·                Anna Daniel i ailosod y ddogfen ar reoli risgiau rhyng-gysylltiedig er mwyn ei dosbarthu i’r staff;

·                Dave Tosh, Gareth Watts a Kathryn Hughes i adolygu’r risgiau rhyng-gysylltiedig i’w diweddaru ac i nodi’r hyn a oedd nawr yn broblemau yn hytrach na risgiau.

 

 


Cyfarfod: 23/10/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Risgiau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12
  • Cyfyngedig 13
  • Cyfyngedig 14
  • Cyfyngedig 15
  • Cyfyngedig 16

Cofnodion:

Arweiniodd Gareth Watts y Bwrdd drwy'r adolygiad rheolaidd o'r risgiau corfforaethol presennol a'r risgiau sy'n dod i'r amlwg a'r gofrestr ddiweddaraf. Nododd y Bwrdd fod Grŵp Llywio Newid Cyfansoddiadol wedi adolygu'r risgiau lefel uchel a nodwyd gan y gweithgorau ar ddiwygio'r Cynulliad, Brexit a Deddf Cymru, a'r rheolaethau sydd ar waith, a'i fod wedi dod i'r casgliad eu bod yn foddhaol. Nododd y Bwrdd hefyd y newid i'r risg mewn perthynas â pharatoadau GDPR.

Cytunodd y Bwrdd Rheoli i ychwanegu'r risg sy'n ymwneud â'r anghenion o ran adeiladau i'r gofrestr gorfforaethol a chyflwyno ROAP ar yr Adolygiad Capasiti i gyfarfod yn y dyfodol.

Ystyriodd y Bwrdd a oedd y risgiau corfforaethol cyfredol yn adlewyrchu effaith gyfun y broses diwygio a newid cyfansoddiadol yn ddigonol, gan gysylltu hynny â chapasiti a phwysau ariannol. Nodwyd yr angen i sicrhau bod dealltwriaeth briodol o'r sefyllfa ariannol o fewn timau.

CAMAU I’W CYMRYD:

·                Tîm Gareth i gasglu'r rhestr o reolaethau sydd eisoes ar waith o fewn y sefydliad i reoli risg; ac

·                aelodau'r Bwrdd Rheoli i ddefnyddio nodyn y Bwrdd i'r staff fel sail i drafod y broses ar gyfer rheoli risg a'r angen am adnabod ac adrodd yn effeithiol am risgiau ar bob lefel o'r sefydliad.

 

 


Cyfarfod: 18/09/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Risgiau Corfforaethol

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Atgoffodd Dave Tosh y Bwrdd fod dechrau'r tymor newydd yn gyfle i ddiweddaru cofrestrau risg gorfforaethol ar draws y sefydliad.

Dylid parhau i roi gwybod ar lefel y Gwasanaeth am risgiau newydd a risgiau sy'n newid, a dylai Penaethiaid Gwasanaeth a Hyrwyddwyr Risg ystyried beth y dylid ei nodi ar gyfer y Gofrestr Risg Gorfforaethol, cyn adolygiad ffurfiol y Bwrdd Rheoli fis Hydref.

1.1        CAM I'W GYMRYD:

·  Gofynnodd y Bwrdd Rheoli i'r cofrestrau risg gorfforaethol gael eu hadolygu a'u diweddaru cyn eu trafod yn ffurfiol yng nghyfarfod y Bwrdd Rheoli ar 23 Hydref.

 

 


Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)

Risgiau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 21
  • Cyfyngedig 22
  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

Cynhaliodd y Bwrdd Rheoli ei adolygiad rheolaidd o'r gofrestr risg gorfforaethol, a oedd wedi'i diweddaru i adlewyrchu statws presennol y risgiau.

Yn ei gyfarfod ym mis Mehefin, roedd ACARAC wedi adolygu'r gofrestr risg gryno gan nodi'r symudiad mewn risgiau, a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau parhaus yn y Bwrdd Rheoli ar effaith gyfunedig y risgiau a wynebir. Yn ogystal, cynhaliwyd archwiliad critigol o barodrwydd y sefydliad ar gyfer y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a fydd yn dod i rym ym mis Mai 2018. Roedd ACARAC yn fodlon ar y cynllun gweithredu, gan ddweud ei fod mewn lle da o gymharu â sefydliadau eraill.

Cytunodd y Bwrdd ar y newidiadau a'r argymhellion a gynigiwyd.

 

 


Cyfarfod: 25/05/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Risgiau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26
  • Cyfyngedig 27
  • Cyfyngedig 28
  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd Rheoli y risgiau presennol a newydd ar lefel gorfforaethol, eu statws, a natur ryng-gysyllitedig y risgiau i gyflawni'r blaenoriaethau strategol, newid cyfansoddiadol a diwygio.

Nododd y Bwrdd nifer o risgiau newydd, gan gynnwys yr ymgynghoriad cyfredol ar ailenwi'r Cynulliad; datblygu Senedd Ieuenctid; prosiectau o ran adeiladau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol; a'r pwysau ariannol ar gyllidebau wrth gyflwyno prosiectau a strategaethau mewn modd amserol.

Cytunodd y Bwrdd i'r canlynol:

·              bod y risg capasiti corfforaethol yn cael ei newid yn ôl i fod yn risg weithredol; a bod sgôr gweddilliol y risg yn ymwneud â'r broses o adael yr UE yn cael ei newid i ganolig i adlewyrchu lle yr oedd yn amhosibl rhoi cynlluniau lliniaru ar waith;

·              diweddaru'r risg yn ymwneud â phwysau ariannol ac adolygu opsiynau yn ddiweddarach;

·              dylai'r risgiau sy'n ymwneud â diogelwch gael eu hadolygu'n agos gyda nodyn i staff yn eu sicrhau o hynny. Dylai staff â phryderon penodol siarad â'r Pennaeth Diogelwch;

·              byddai nodyn yn cael ei baratoi i staff fel canllaw ar y ffordd i gyfeirio at y Cynulliad tan i unrhyw newid yn dilyn yr ymgynghoriad gael ei weithredu'n ffurfiol.

 

 


Cyfarfod: 02/03/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)

Risgiau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32
  • Cyfyngedig 33
  • Cyfyngedig 34
  • Cyfyngedig 35
  • Cyfyngedig 36
  • Cyfyngedig 37
  • Cyfyngedig 38
  • Cyfyngedig 39

Cofnodion:

Cyflwynodd Dave y papur Risgiau Corfforaethol, gan roi gwybod i’r Bwrdd ei fod yn gyfle iddynt hwy adolygu risgiau corfforaethol presennol y Cynulliad a risgiau sy’n dod i’r amlwg.

Cytunodd y Bwrdd ar yr argymhellion i:

·                ychwanegu risg diogelwch personol a risg diogelwch i’r Gofrestr Risg Corfforaethol;

·                parhau i fonitro’r risg diogelwch personél ar lefel gwasanaeth;

·                ychwanegu’r risg Rheoliad Cyffredinol Data a Diogelu at y Gofrestr Risgiau Corfforaethol, gyda hyd targed o tan fis Mai 2018;

·                parhau i fonitro ymwybyddiaeth yr Aelodau o risg Diogelu Plant ar lefel gwasanaeth, gyda phenderfyniad i’w wneud yn y dyfodol o ran pa wasanaeth a ddylai berchenogi’r risg; ac

·                yn dilyn yr ystyriaeth gan ACARAC, bod y risg o ran anghenion llety y Cynulliad ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol, yn cael ei ychwanegu at y Gofrestr Risg Corfforaethol.

Nododd y Bwrdd hefyd y risgiau newydd neu risgiau sy’n dod i’r amlwg canlynol:

·                Sefydlu Senedd Ieuenctid. Rhoddodd Non wybod i’r Bwrdd fod y gweithgor Senedd Ieuenctid wedi ystyried y risgiau sy’n gysylltiedig â’r prosiect ac y bydd yn gwneud hynny eto yn ei gyfarfod nesaf;

·                y diffyg rhyngweithio strategol a chydlynol gyda’r cyfryngau, a oedd wedi cael ei ychwanegu at y gofrestr lefel gwasanaeth.

Trafododd y Bwrdd ychwanegu risg newydd at y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ynghylch newid cyfansoddiadol. Y bwriad fyddai i hwn grynhoi casgliad o risgiau tebyg sy’n gysylltiedig â’r newidiadau sy’n digwydd, er mwyn darparu’r oruchwyliaeth gyffredinol sy’n ofynnol gan y Bwrdd.

CAMAU I’W CYMRYD:

·                Dave i weithio gydag Adrian, Anna a Non, i ddrafftio nodyn manwl a’i ddosbarthu ar gyfer trafodaeth ehangach.

 


Cyfarfod: 02/02/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Risgiau Corfforaethol

Papur 2 – Risg Corfforaethol

Papur 2 – Atodiad A – Crynodeb Risg

                Atodiad B – Risgiau Corfforaethol wedi’u nodi

      Atodiad C – Ymateb Negyddol Tuag At Gynyddu Maint y Cynulliad

      Atodiad D – Ffurflen Asesu Risg – Bygythiadau Seiber

      Atodiad E  - Ffurflen Asesu Risg - Pwysau Cyllidebol Cynyddol

      Atodiad F – Asesiad Manwl o Risgiau’n ymwneud a Llety  

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 42
  • Cyfyngedig 43
  • Cyfyngedig 44
  • Cyfyngedig 45
  • Cyfyngedig 46
  • Cyfyngedig 47
  • Cyfyngedig 48

Cofnodion:

Adolygodd y Bwrdd Rheoli risgiau corfforaethol presennol y Cynulliad a'r risgiau sy'n dod i'r amlwg. Mae'r gofrestr risg yn adlewyrchu'r statws cyfredol o ran risgiau, a'r newidiadau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2016. Cytunwyd ar y rhain, ond gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch dynodiad yr ystâd o ran diogelwch.

Cytunodd y Bwrdd ar yr argymhellion a ganlyn:

·                cadw'r risg ynghylch newid enw'r Cynulliad ar y gofrestr gorfforaethol, ond bod y dull o reoli'r risg yn ymgorffori bod yn rhagweithiol ynghylch annog y rhai sydd â barn gadarnhaol am y newidiadau i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed;

·                ychwanegu bygythiadau seiber at y gofrestr gorfforaethol;

·                ychwanegu'r risgiau sy'n deillio o bwysau ariannol ac sy'n ymwneud ag enw da'r sefydliad i'r gofrestr gorfforaethol, ond eu haralleirio fel eu bod yn ymestyn y tu hwnt i'r rhaglen ddiwygio;

·                dileu'r risg sy'n ymwneud â "setliad" Bil Cymru o'r gofrestr gorfforaethol a rheoli risgiau ar lefel gwasanaeth.

·                ychwanegu cynigion sy'n ymwneud â llety i'r gofrestr gorfforaethol. Bydd y cam hwn yn destun archwiliad beirniadol yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar 6 Chwefror.

 

 


Cyfarfod: 12/12/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Risgiau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 51
  • Cyfyngedig 52
  • Cyfyngedig 53
  • Cyfyngedig 54
  • Cyfyngedig 55

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd Rheoli risgiau cyfredol a newydd ar lefel gorfforaethol a chytunwyd ar argymhellion i ailddosbarthu'r risg o ran gallu dwyieithog fel y câi ei reoli ar lefel gwasanaeth ynghyd â'r risg lefel gwasanaeth presennol sy'n ymwneud â chydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Cytunwyd hefyd i newid statws dau risg corfforaethol i risgiau statig, ar gyfer capasiti a diogelwch yr ystâd. Gwnaed y newidiadau yn sgil y rheolaethau yn bod yn rhai cadarn, effeithiol ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Cytunwyd y byddai'r risgiau newydd yn cael eu creu i fonitro dau faes penodedig arall o ddiogelwch. 

Nododd y Bwrdd nifer o risgiau newydd sy'n ymwneud â phwysau yn deillio o ddiwygiadau cyfansoddiadol yn y dyfodol, gan gynnwys: yr ymgynghoriad cyfredol ar ailenwi'r Cynulliad, gan nodi bod dros 900 o ymatebion wedi dod i law hyd yma; datblygu Senedd Ieuenctid; prosiectau o ran adeiladau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol; a'r pwysau ariannol ar gyllidebau wrth gyflwyno prosiectau a strategaethau mewn modd amserol.

CAMAU GWEITHREDU: Dave Tosh a Nia Morgan i gytuno ar ffurf y geiriau ar gyfer risg sy'n ymwneud â chyfyngiadau ariannol.

Non Gwilym, Anna Daniel a Lowri Williams i baratoi cynllun ar gyfer pryd y gallai risgiau ddod i'r amlwg mewn perthynas â chapasiti'r ystâd ac anghenion o ran adeiladau yn y dyfodol, a chysylltu mewn perthynas â chyfathrebu.

Cytunwyd y gallai'r risg sy'n ymwneud â phenderfyniadau'r Bwrdd Taliadau gael ei dynnu oddi ar y gofrestr ac y byddai'r Bwrdd Rheoli yn ailedrych ar y risgiau o ran darparu canllawiau ar ddiogelu plant a phobl ifanc yn yr adolygiad nesaf o risgiau corfforaethol.

 

 

 


Cyfarfod: 14/07/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Risgiau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 58
  • Cyfyngedig 59
  • Cyfyngedig 60
  • Cyfyngedig 61

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Rheoli risgiau cyfredol a newydd ar lefel gorfforaethol ac, yn benodol, effaith strategaeth newydd y Comisiwn a’r risgiau sy’n dod i’r amlwg o ran effaith canlyniad Refferendwm yr UE ar y sefydliad. Er bod llawer o ansicrwydd ynghylch effaith y canlyniad, ac roedd y sefydliad yn gwneud yn dda o ran lliniaru, ond gan feddwl ymlaen, byddai paratoi a sicrhau bod y Comisiwn wedi ymrwymo o ran adnoddau, yn fater doeth i’w gynnwys fel risg corfforaethol. Cytunodd y Bwrdd fod cael trafodaeth sy’n canolbwyntio ar risgiau posibl yn angenrheidiol, gyda golwg ar osgoi iddo fod yn fater sy’n gorfod aros ar y gofrestr am yr hirdymor. Cytunwyd y byddai Anna Daniel yn arwain ar y mater o asesu risgiau o ran goblygiadau canlyniad y Refferendwm.

Gofynnwyd i’r Bwrdd ystyried argymhellion i dynnu pedwar risg o’r gofrestr risgiau corfforaethol o ystyried arferion rheolaeth, terfynu neu liniaru effeithiol y risgiau hynny ac, os felly, a ddylent gael eu monitro ar lefel gwasanaeth. Cytunodd y Bwrdd ar y pedwar argymhelliad.

Yn ogystal, nodwyd rhai newidiadau i’r gofrestr i adlewyrchu statws presennol risgiau. Cytunodd Dave Tosh i adolygu geiriad y risg yn ymwneud ag ymosodiad terfysgol / arfau yn dilyn digwyddiadau diweddar (Cyf: Sec009).

Ystyriodd y Bwrdd y risg yn ymwneud â phenderfyniadau’r Bwrdd Taliadau, a oedd yn cael ei reoli’n dda, a chytunodd i’w ystyried eto ar adeg yr adolygiad nesaf. Trafodwyd y risg yn ymwneud â newidiadau o ran uwch reolwyr hefyd.

 


Cyfarfod: 20/06/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)

Ffurflen Asesu Risg - Newidiadau Uwch-reoli

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 64

Cofnodion:

Cytunodd y Bwrdd i neilltuo cyfarfod i drafod rheoli absenoldeb, felly gohiriwyd yr eitemau eraill tan agenda cyfarfod mis Gorffennaf.

 


Cyfarfod: 14/04/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)

Risgiau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 67
  • Cyfyngedig 68
  • Cyfyngedig 69
  • Cyfyngedig 70
  • Cyfyngedig 71
  • Cyfyngedig 72

Cofnodion:

Adolygwyd y gofrestr a’r dangosfwrdd risg corfforaethol presennol a chytunwyd fod cynnydd da wedi’i wneud o ran nodi a rheoli risgiau corfforaethol yn weithredol.

Byddai Chris Warner yn darparu ‘risg ar dudalen’ (ROAP) ar ddiogelu, i’r Bwrdd ei ystyried yn ei adolygiad nesaf o risg.

Trafododd y Bwrdd y risgiau o ran refferendwm yr UE ac roedd arweiniad yn cael ei baratoi ar hyn o bryd ar gyfer staff ac Aelodau fel mater o flaenoriaeth. Cytunwyd ar y ‘risg  ar dudalen’.

Roedd y pontio i’r Pumed Cynulliad ar fin digwydd ac roedd meysydd o bryder o ran cyflawni cyfrifoldebau. Gofynnwyd i Benaethiaid fynd i’r afael â’r rhain yn eu meysydd, os a phan y byddent yn codi.

Cytunwyd ar y ‘risg ar dudalen’ o ran rheolaeth ariannol, gyda rhai ychwanegiadau.


Cyfarfod: 07/03/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)

Risgiau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 75
  • Cyfyngedig 76
  • Cyfyngedig 77
  • Cyfyngedig 78
  • Cyfyngedig 79

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Rheoli y risgiau cyfredol a newydd ar lefel gorfforaethol a nododd y cynnydd o ran lliniaru risgiau a statws presennol pob risg.

Yn dilyn yr adolygiad o'r risg Gallu Corfforaethol ar lefel Bwrdd ac ACARAC, diweddarwyd y disgrifiad o'r risg i adlewyrchu'r adborth.

Ystyriodd y Bwrdd a ddylid rheoli'r risgiau ynghylch pontio i'r Pumed Cynulliad fel risg corfforaethol, a chytunwyd eu bod yn cael eu rheoli'n rhagweithiol o fewn pob llinyn ac y dylid parhau i wneud hynny.

Mewn perthynas ag adroddiad 'Risg ar dudalen' y Cynllun Ymadael Gwirfoddol, dywedodd Non Gwilym y byddai'r rheolwr cyfryngau yn adolygu'r camau i'w cymryd.

Byddai'r risg capasiti Dwyieithrwydd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu risgiau ynghylch newidiadau posibl i'r gofynion yn y Pumed Cynulliad.

Codwyd y mater o absenoldeb oherwydd salwch a chytunwyd y byddai'r Bwrdd yn trafod hyn yn fanylach mewn cyfarfod yn y dyfodol. Hefyd, codwyd y mater o ddiogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed mewn perthynas â'r paratoadau sydd eu hangen i liniaru'r risgiau ynghylch y trosiant uchel o ran Aelodau yn ystod y cyfnod pontio i'r Pumed Cynulliad.

 


Cyfarfod: 25/01/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)

Risgiau corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 82
  • Cyfyngedig 83
  • Cyfyngedig 84
  • Cyfyngedig 85

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd Rheoli'r risgiau cyfredol a’r risgiau sy’n dod i’r amlwg ar lefel gorfforaethol a nododd diweddariadau allweddol. Dywedwyd wrth y Bwrdd y byddai'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn adolygu sut mae'r risg yn ymwneud â chapasiti corfforaethol yn cael ei reoli yn ei gyfarfod nesaf ym mis Chwefror.

Cyflwynodd Dave Tosh adroddiad digwyddiad risg ynglŷn â threfniadau newydd ar gyfer fetio diogelwch a dywedodd fod trafodaethau ar y gweill gyda Heddlu De Cymru ynghylch darpariaeth yn y dyfodol.

Cytunwyd y dylid ychwanegu risgiau tymor byr o ran y cynllun ymadael at y gofrestr.

Camau i’w cymryd:

Dave Tosh a Sulafa Thomas i nodi a oes risgiau'n ymwneud â throsglwyddo i'r Pumed Cynulliad y dylid eu hychwanegu at y gofrestr gorfforaethol.

Penaethiaid gwasanaeth i sicrhau bod prosesau rheoli risg yn cael eu dilyn yn briodol yn eu meysydd hwy

 


Cyfarfod: 05/10/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)

Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Risgiau Corfforaethol

MB 12-15 Papur 6 – Risgiau Corfforaethol – Papur Clawr

MB 12-15 Papur 6 – Crynodeb Risgiau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 88
  • Cyfyngedig 89

Cofnodion:

Adolygodd y Bwrdd Rheoli y gofrestr o risgiau corfforaethol a ddiwygiwyd yn dilyn cyfarfod blaenorol y Bwrdd pan gynhaliwyd adolygiad llawn o’r risgiau.

Cytunwyd y byddai Gareth Watts yn cyfarfod â pherchnogion risg eto i drafod cwmpas eu risgiau ac i ystyried a yw'r geiriad yn adlewyrchu hynny’n effeithiol.

 


Cyfarfod: 06/07/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Risg Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 92
  • Cyfyngedig 93

Cofnodion:

Roedd y Bwrdd Rheoli wedi cytuno i gynnal trafodaeth estynedig ar reoli risg corfforaethol i gymryd golwg cynhwysfawr ar yr holl risgiau cyfredol ac i benderfynu pa risgiau sy’n parhau a pha risgiau y gellir eu cau, ynghyd â chymryd rhagolwg ar risgiau posibl a all godi hyd at ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad a thu hwnt.

Cytunodd y Bwrdd ar nifer o newidiadau i’r gofrestr:

·                Y dylai’r sgôr gweddilliol ar gyfer y risg o ran capasiti corfforaethol gael ei godi i ‘uchel’, gan y byddai pwysau ar gapasiti ynghyd â chyfyngiadau ariannol yn parhau i dyfu;

·                Pontio i’r Pumed Cynulliad - Adrian Crompton a Sulafa Thomas i adolygu risg ac ystyried elfennau y tu hwnt i’n rheolaeth;

·                Anna Daniel a Kathryn Hughes i addasu’r risg Newid Cyfansoddiadol;

·                Anna Daniel a Non Gwilym i ystyried y risg o ran canfyddiadau negyddol o’r Cynulliad;

·                Diogelwch ffisegol - risg i’w addasu i gynnwys amddiffyn rhag ymosodiadau terfysgol.

Cafodd y risg o ran diogelwch gwybodaeth ei dynnu oddi ar y gofrestr gorfforaethol a newid i fod yn risg i wasanaeth, a chytunodd Dave Tosh i ymchwilio i’r ymholiad a godwyd ynghylch diogelu data.

Cytunodd y Bwrdd i dynnu nifer o risgiau oddi ar y gofrestr a oedd naill ai wedi’u datrys neu lle oedd gwaith wedi’i wneud i liniaru’r risgiau hyn.

 


Cyfarfod: 01/06/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)

Risgiau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 96
  • Cyfyngedig 97
  • Cyfyngedig 98
  • Cyfyngedig 99
  • Cyfyngedig 100
  • Cyfyngedig 101

Cofnodion:

Gwnaeth y Bwrdd ei adolygiad cyfnodol o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol gan nodi a oedd unrhyw risgiau wedi dod i'r amlwg ag arwyddocâd corfforaethol.

Cytunodd y Bwrdd i gael gwared ar y risg Parhad Busnes, yn dilyn cynnydd pellach a'r ymarfer parhad llwyddiannus a wnaed ym mis Ebrill. Bydd y risgiau'n parhau i gael eu rheoli drwy'r System Rheoli Parhad Busnes.

Cytunwyd hefyd i gael gwared ar y risg ynghylch defnyddio cyfryngau cymdeithasol oherwydd y rheolaethau a roddwyd ar waith. Bydd y risg yn cael ei reoli ar lefel gwasanaeth.

Hefyd, ystyriodd y Bwrdd y risgiau 'statig' (y rhai a oedd yn wynebu'r Cynulliad bob amser ond sydd angen ffocws tymor hwy). Nodwyd bod angen i'r Bwrdd sicrhau bod gan y risgiau a'r materion statig ddigon o amlygrwydd.

Camau i’w cymryd: Cytunwyd, pan gaiff risgiau corfforaethol eu trafod nesaf, y byddai'n cael ei roi gyntaf ar yr agenda er mwyn caniatáu am adolygiad llawn, gyda ffocws ar lle dylai risgiau gael eu rheoli a beth sy'n cyfrif fel materion.

 


Cyfarfod: 23/03/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)

Diweddariad ar Risgiau Corfforaethol - Papur 3 ac Atodiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 104
  • Cyfyngedig 105
  • Cyfyngedig 106
  • Cyfyngedig 107
  • Cyfyngedig 108

Cofnodion:

Gwnaeth y Bwrdd ei adolygiad cyfnodol o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol gan nodi a oedd unrhyw risgiau wedi dod i'r amlwg ag arwyddocâd corfforaethol.

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn edrych ar y risgiau yn ymwneud â newid cyfansoddiadol yn ei gyfarfod ar 20 Ebrill. Hefyd, o ystyried lefel y bygythiad presennol, holodd y Pwyllgor a ddylid rheoli risgiau diogelwch yn gorfforaethol. Byddai'n ystyried hyn ymhellach yn ei gyfarfod ar 8 Mehefin.

Ystyriodd y Bwrdd Rheoli'r risg niwed i enw da yn dilyn cyhoeddiadau Dydd Gŵyl Dewi ar newid cyfansoddiadol a chytunodd bod y risg wedi pasio ac, o ganlyniad i'r gwaith paratoi a wnaed, roedd canlyniad da i enw da'r Llywydd a'r Cynulliad. Cytunwyd nad oedd angen rhoi newid cyfansoddiadol ar y gofrestr gorfforaethol ar hyn o bryd.

Roedd y materion yn ymwneud â diogelwch wedi cael ymateb ac fe wnaed newidiadau i liniaru'r risgiau, gan gynnwys rhaglen fetio a sesiynau fideo Stay Safe ar gyfer staff.  Cytunwyd nad oedd yn risg gorfforaethol ar hyn o bryd, er y dylid adolygu'r mater yn rheolaidd i ystyried a oes unrhyw beth wedi newid.

Cytunwyd y byddai newid cyfansoddiadol, serch hynny, yn bwnc priodol i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ei archwilio, gan edrych ar y gwaith a wnaed i sicrhau'r canlyniadau yn dilyn y cyhoeddiadau Dydd Gŵyl Dewi ac i sicrhau y gwneir popeth posibl i baratoi ar gyfer newidiadau yn y dyfodol. Bydd Anna Daniel yn paratoi briff ar gyfer hyn ac yn mynychu'r cyfarfod.

 


Cyfarfod: 02/02/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)

Diweddariad Risg Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 111
  • Cyfyngedig 112
  • Cyfyngedig 113
  • Cyfyngedig 114
  • Cyfyngedig 115

Cofnodion:

Cynhaliodd y Bwrdd eu hadolygiad cyfnodol o'r gofrestr risg gorfforaethol gan gynnwys sgan cyffredinol am risgiau posibl. Ystyriodd y Bwrdd a ddylid codi Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau fel risg corfforaethol, ond cytunodd bod digon o reolaethau ar waith a monitro rheolaidd gan y Bwrdd Rheoli.

Ystyriodd y Bwrdd ymhellach a ddylai'r prosiect Teleffoni gael ei godi fel risg gorfforaethol, gan fod terfyn amser pendant i adael y contract presennol, a chytunwyd ar hynny. Ymhlith y nifer fawr o reolaethau a mesurau lliniaru dywedodd Dave Tosh fod trafodaethau ar y gweill gyda'r cyflenwr ynghylch opsiynau i ymestyn y cytundeb os fydd angen.

Dywedodd Non Gwilym bod y cyfryngau cymdeithasol yn dal yn risg gorfforaethol hyd nes y bydd Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol yn cael ei benodi, ond dylai hyn ddigwydd yn fuan.

Adolygodd y Bwrdd y siart cryno sy'n amlinellu tebygolrwydd ac effaith pob risg gorfforaethol a chytunodd y byddai'n ddefnyddiol i adolygu'r fformat.

Camau i’w cymryd: Dave Tosh a Kathryn Hughes i ystyried fformatau amgen a fyddai'n gwneud y wybodaeth yn fwy ystyrlon a'u cyflwyno gyda'r diweddariad nesaf


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)

Y wybodaeth ddiweddaraf am risgiau corfforaethol - Papur 4 ac atodiadau A i D

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 118
  • Cyfyngedig 119
  • Cyfyngedig 120
  • Cyfyngedig 121
  • Cyfyngedig 122

Cofnodion:

Cynhaliodd y Bwrdd ei adolygiad cyfnodol o'r gofrestr risg gorfforaethol, gan gynnwys sganio'r gorwel ar gyfer risgiau posibl. Cytunodd y Bwrdd i ddileu'r risgiau ynghylch diogelu plant, TGCh a'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol, gan fod y camau lliniaru wedi gostwng y risgiau hynny i lefelau hylaw, sydd yn caniatáu iddynt orwedd ar lefel Gwasanaeth.

Trafodwyd y risg ynghylch diogelwch, ond cytunwyd y byddai'r Bwrdd Rheoli yn ystyried a ddylid codi lefel y risg i'r lefel gorfforaethol yn dilyn yr adolygiad presennol. Cytunodd y Bwrdd hefyd: i ymestyn y risg ynghylch capasiti corfforaethol i dymor yr haf 2015 er mwyn caniatáu amser ar gyfer recriwtio; i adael y risg ynghylch defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar y gofrestr hyd nes y bydd hyfforddiant ar y polisi wedi'i gwblhau; ac y byddai Anna Daniel yn paratoi dadansoddiad risg ac yn ystyried holl sgil-effeithiau'r risgiau ynghylch y penderfyniadau a wneir gan y Bwrdd Taliadau.

Trafododd y Bwrdd a ddylid cymryd asesiad risg i ystyriaeth mewn perthynas â phob papur penderfyniad yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd y gallai fod yn briodol cynnwys pennawd yn nhempledi'r papurau er mwyn sicrhau bod y mater hwn yn cael sylw ac i ddarparu trywydd archwilio. Byddai Virginia Hawkins yn ystyried geiriad priodol.