Cyfarfodydd

Motion to suspend Standing Orders

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Cynnig i atal Rheol Sefydlog

NNDM6017 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 7.1 sy'n ei gwneud yn ofynnol i ystyried cynnig i benodi aelodau'r Comisiwn heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi'r Pwyllgor Busnes, er mwyn caniatáu i NNDM6018 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 8 Mehefin 2016.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.52

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfarfod: 27/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Cynnig i atal Rheol Sefydlog 12.20(i) ac 11.16 i gynnal trafodaeth ar Gomisiwn Silk

NDM5107 Jane Hutt  (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5108 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 27 Tachwedd 2012.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:02

NDM5107 Jane Hutt  (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5108 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 27 Tachwedd 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno busnes ar 2 Ionawr 2013

NNDM5101 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn atal:

a) Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i gynigion ar gyfer dadleuon ddydd Mawrth 8 Ionawr 2013 gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr; a

b) y rhan honno o Reol Sefydlog 12.59 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod cwestiynau llafar yn cael eu cyflwyno o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb, er mwyn caniatáu i gwestiynau llafar i’w hateb ddydd Mawrth 8 Ionawr gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr 2013.

2. Yn cytuno y bydd y Rheolau Sefydlog hyn yn cael eu hatal ar ddydd Mercher 2 Ionawr yn unig.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.02

NNDM5101 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn atal:

a) Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i gynigion ar gyfer dadleuon ddydd Mawrth 8 Ionawr 2013 gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr; a

b) y rhan honno o Reol Sefydlog 12.59 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod cwestiynau llafar yn cael eu cyflwyno o leiaf bum niwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb, er mwyn caniatáu i gwestiynau llafar i’w hateb ddydd Mawrth 8 Ionawr gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr 2013.

2. Yn cytuno y bydd y Rheolau Sefydlog hyn yn cael eu hatal ar ddydd Mercher 2 Ionawr yn unig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.