Cyfarfodydd

P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-603 Helpu babanod sy’n cael eu geni ar ôl 22 wythnos i oroesi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Prif Swyddog Meddygol a chytunwyd i gau’r ddeiseb, o ystyried cyfraniad y deisebydd yn natblygiad y canllawiau wedi’u diweddaru ar y mater, a’r ffaith bod y ddeiseb wedi helpu i sicrhau bod y materion anodd a sensitif iawn a godwyd gan y deisebydd yn cael sylw.

 


Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

  • ofyn am sylwadau gan y deisebydd, gan dynnu ei sylw yn arbennig at y cynnig i rannu cynnwys drafft terfynol y ddogfen Mamolaeth a Newyddenedigol ar y cyd, sy'n rhoi arweiniad i weithwyr iechyd proffesiynol, cyn iddo fynd at y Grŵp Llywio Newyddenedigol ym mis Tachwedd; a
  • gofyn am sicrwydd gan y prif swyddog meddygol y bydd hi'n gallu rhoi mewnbwn i'r drafft.

 

 


Cyfarfod: 17/09/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi: gohebiaeth gan y Prif Swyddog Meddygol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.9a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 01/07/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi: gohebiaeth gan y Prif Swyddog Meddygol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chroesawodd y cynnydd a wnaed hyd yn hyn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Swyddog Meddygol i:

·         ofyn i gael gwybod am unrhyw gynnydd pellach gyda'r ddogfen consensws clinigol sy'n cael ei datblygu gan y Grŵp Rheoli Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan a Rhwydwaith Mamolaeth Cymru Gyfan; a

·         cheisio gwybodaeth bellach am yr amserlenni ar gyfer y gwaith sy'n mynd rhagddo gan y Grŵp Mamolaeth a'r Rhwydwaith Newyddenedigol i ddatblygu llwybrau gofal i rieni a babanod, gan gynnwys darparu gofal lliniarol a phrofedigaeth.

 


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb i lythyr y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Prif Swyddog Meddygol. 

 

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn:

 

  • i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Bwrdd Iechyd i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd ar y gweill i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o'r achos hwn yn y dyfodol;
  • i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried a oes angen ymchwiliad i'r canllawiau cyfredol ar adfywio plant a anwyd cyn pryd; ac
  • i'r deisebydd i ofyn a oes cofnod ffurfiol o'r cyfarfod a gynhaliwyd gyda'r Cynghorwr ar Iechyd Mamau a Phlant ac a fyddai hi'n fodlon rhannu hynny gyda'r Pwyllgor.

 

 

 

 


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-603 Helpu babanod sy’n cael eu geni ar ôl 22 wythnos i oroesi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn bellach y deisebydd yn dilyn ei chyfarfod gyda swyddogion y llywodraeth a oedd i gael ei gynnal ar 18 Chwefror.

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-603 Helpu babanod sy’n cael eu geni ar ôl 22 wythnos i oroesi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei farn ar sylwadau’r deisebydd am sail ei deiseb ac, yn benodol, am ei farn ynghylch a ddylai cymorth meddygol gael ei roi i fabanod a anwyd yn fyw ac yn anadlu; a

·         gofyn am bapur briffio ymchwil sy’n cymharu’r modd yr ymdrinnir â’r materion hyn yng Nghymru a chenhedloedd eraill o fewn y DU.