Cyfarfodydd

Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Meddygol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Meddygol: gwybodaeth ychwanegol gan y Prif Swyddog Meddygol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Prif Swyddog Meddygol.

 

 

 


Cyfarfod: 20/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Meddygol: gwybodaeth ychwanegol gan y Prif Swyddog Meddygol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Prif Swyddog Meddygol ynghylch y Cynllun Gofal Sylfaenol.

 


Cyfarfod: 22/10/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Meddygol

Dr. Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Dr Grant Duncan, Pennaeth yr Is-Adran Polisi Gofal Iechyd

Dr Chris Jones, Pennaeth yr Is-adran Ansawdd Gofal Iechyd

 

Dogfennau ategol

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14: Iachach, Hapusach, Tecach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Prif Swyddog Meddygol yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd y Prif Swyddog Meddygol i roi rhyw syniad inni pryd y disgwylir i’r crynodeb blynyddol o adolygiadau o nodiadau achos marwolaethau gael ei gyhoeddi.

2.3 Nododd y Pwyllgor y byddai’n croesawu gwybodaeth bellach gan y Prif Swyddog Meddygol am:

  • pryd y bydd yr adolygiad o ad-drefnu gwasanaethau bwrdd iechyd yn cael ei gyhoeddi; ac
  • y ‘Cynllun Gofal Sylfaenol’ arfaethedig, i gynnwys manylion am ei gwmpas, cylch gorchwyl ac amserlen.