Cyfarfodydd
Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar iechyd y cyhoedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd: Yn dilyn o 8 Hydref 2014
Dogfennau ategol:
- HSC(4)-26-14 (ptn 4) Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eitem 7 PDF 43 KB
- HSC(4)-26-14 (ptn 5) Gwybodaeth ychwanegol gan y Prif Swyddog Meddygol, Eitem 7 PDF 25 KB Gweld fel HTML (7/2) 4 KB
Cofnodion:
7.5a Nododd
y Pwyllgor yr ymatebion gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r
Prif Swyddog Meddygol mewn perthynas â'r brîff ffeithiol ar y Papur Gwyn ar
Iechyd Cyhoeddus.
Cyfarfod: 08/10/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Sesiwn friffio ffeithiol ar y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd
Dr. Ruth
Hussey, Prif Swyddog Meddygol
Chris
Tudor-Smith, Uwch-swyddog Cyfrifol
Tracey
Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Busnes y
Llywodraeth a Chorfforaethol
Sue
Bowker, Pennaeth Cangen Polisi Tybaco
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/1)
- Cyfyngedig 9 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/2)
Cofnodion:
3.1 Cafodd yr
Aelodau sesiwn friffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn ar Iechyd
y Cyhoedd.
3.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Swyddog Meddygol i ofyn am wybodaeth
am nifer y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio sigaréts electronig a chynhyrchion
tybaco traddodiadol.
3.3
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ynghylch a oes gan y Cynulliad gymhwysedd
deddfwriaethol o ran isafswm prisio uned, yn ei farn ef, ac am unrhyw
drafodaethau y mae'r Gweinidog neu ei swyddogion wedi'u cael gyda Llywodraeth y
DU ar y mater hwn.