Cyfarfodydd

P-04-600 Deiseb i Achub y Gwasanaeth Meddygon Teulu.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-600 Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y materion sy'n cael eu codi yn y ddeiseb wedi cael sylw yn Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 29/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 12)

12 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-600 Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-600 Deiseb i Achub y Gwasanaeth Meddygon Teulu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ei farn ar sylwadau’r deisebydd; a
  • gofyn i'r tîm clercio ganfod a oes gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y gallu i ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb.

 

Ar bwynt mwy cyffredinol, cytunodd y Pwyllgor y dylai Aelodau gael copïau o Flaenraglenni Gwaith Pwyllgorau eraill.

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-600 Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.