Cyfarfodydd

P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebu.

 

 


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg arni, oherwydd y bydd trafod y mater hwn yn fater penodol i'r Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd a'r Cynulliad maes o law.

 

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd.

 

[Yn syth ar ôl y cyfarfod, daeth i'r amlwg bod y deisebydd wedi cyflwyno sylwadau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb sawl diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd y sylwadau hyn yn cael eu hystyried gan yr Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 16 Mehefin.]

 


Cyfarfod: 29/04/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts mewn Mannau Cyhoeddus: gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Ddwyn sylw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y mater, i’w ystyried os caiff y Bil Iechyd y Cyhoedd arfaethedig, y disgwylir, ar hyn o bryd, iddo gael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf, ei gyfeirio atynt ar gyfer craffu arno; ac 

·         Gofyn i’r Gweinidog am ei farn ar ohebiaeth bellach y deisebydd, yn enwedig ei sylwadau ar ymgysylltiad Llywodraeth yr Alban â’r gymuned rhyddhau anwedd, a’i ddealltwriaeth o’r penderfyniad i beidio â mynd ar drywydd gwahardd e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus yn yr Alban.

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i ofyn i’r Gweinidog ymateb i sylwadau pellach y deisebydd.

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.