Cyfarfodydd

Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/03/2016 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Helpu Pobl Ifanc i gael Gwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 24/02/2016 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Teresa Holdsworth, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid, Llywodraeth Cymru

Ella Davidoff, Pennaeth Datblygu Polisi a Rhaglenni, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1Atebodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg a’i swyddogion gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

3.2 Cynigiodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ddarparu copi o adroddiad ar astudiaeth a gynhaliwyd yn Lloegr am ymgysylltedd myfyrwyr â phynciau STEM.


Cyfarfod: 20/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar helpu pobl ifanc i gael gwaith

NDM5763 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

NDM5763 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 19/03/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Lansio'r Adroddiad ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Cofnodion:

7.1 Lansiodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith.


Cyfarfod: 11/03/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Dogfennau ategol:

  • Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith.


Cyfarfod: 25/02/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Dogfennau ategol:

  • EBC(4)-05-15 (p.18) Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i edrych ar yr Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith yn y cyfarfod ffurfiol nesaf.


Cyfarfod: 29/01/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith.


Cyfarfod: 15/01/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith - Sesiwn 9

Michael Davies, Prifathro, Ysgol y Preseli

Joanna Murray, Cyfarwyddwr y Chweched Dosbarth, Ysgol Gyfun Treorci

Nia Wyn Roberts, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Uwchradd Caergybi

Dogfennau ategol:

  • Briff Ymchwil

Cofnodion:

2.1 Cafwyd tystiolaeth gan Nia Wyn Roberts, Joanna Murray a Michael Davies.


Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Fideo Allgymorth ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Cofnodion:

Cyflwynwyd fideo ar yr ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith gan Kevin Davies, Rheolwr Allgymorth


Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith - Sesiwn 8

Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp Sgiliau, Llywodraeth Cymru

Teresa Holdsworth, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl
   Ifanc

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie James, Teresa Holdsworth a Huw Morris.


Cyfarfod: 12/11/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith - Sesiwn 5

Jo-Ann Walsh, Rheolwr CMC, Cyngor Sir a Dinas Abertawe
Leanne Ward, Cydlynydd Ôl-16, Cyngor Sir Fynwy

                               

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gyngor Abertawe a chyngor sir Fynwy.

 

Cytunodd sir Fynwy i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar ei waith gydag ysgolion.

 

Cytunodd Abertawe i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar yr adroddiad Arad a’r fethodoleg Kafka.


Cyfarfod: 12/11/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Dr Greg Walker, Prif Weithredwr, ColegauCymru
Mark Jones, Cadeirydd, ColegauCymru, a Phennaeth, Coleg Gŵyr

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ColegauCymru.


Cyfarfod: 12/11/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith - Sesiwn 6

Arwyn Watkins, Prif Swyddog Gweithredol, Ffederasiwn Hyfforddiant
    Cenedlaethol Cymru
Jeff Protheroe, Rheolwr Gweithrediadau, Ffederasiwn Hyfforddiant
    Cenedlaethol Cymru
Andrew Cooksley, Rheolwr Gyfarwyddwr, ACT
Faith O’Brien, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, ITEC

 

                               

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ag ACT.

 

Cytunodd y Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar ysgolion yn mynychu’r digwyddiad Sgiliau Cymru.


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

1 Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith - Sesiwn 4

Richard Spear, Prif Weithredwr, Careers Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyrfa Cymru.

 

Cytunodd Gyrfa Cymru i ddarparu tystiolaeth ychwanegol ar gostau ei wasanaethau a’r enillion sy’n dilyn.

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith - Sesiwn 2

Yvonne Rodgers, Cyfarwyddwr, Barnardo’s Cymru

Wendi Jones, Pennaeth Gwasanaethau, GISDA
Elizabeth Stokes, Rheolwr Learning 4Life, Llamau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Llamau a Barnardo’s Cymru.

 

Cytunodd Llamau i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar hyfforddiant teithio mewn ysgol.


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith - Sesiwn 1

Steve Martin, Rheolwr Prosiect, Swyddfa Archwilio Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru.


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith - Sesiwn 3

Andrew Viazzani, Pennaeth Recriwtio, Admiral
Wendy Rees, Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol, BBC Cymru
Martin Nicholls, Prif Swyddog Gweithredu, Gwasanaethau Adeiladu ac

   Eiddo Corfforaethol, Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gwananaethau Adeiladu ac Eiddo cyngor Abertawe, Admiral, Urdd Gobaith Cymru a BBC Cymru.

 

Cytunodd cyngor Abertawe i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar ei brofiad o’r rhaglen addysg gwaith sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru; ac ystadegau ar faint o’r bobl mae’n eu cyflogi drwy gontractwr yn ffeindio gwaith parhaol.

 


Cyfarfod: 24/09/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2.)

Papur Cwmpasu ar gyfer yr Ymchwiliad i Gyflogaeth

Dogfennau ategol: