Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyllogaeth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/03/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11)
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth: gohebiaeth gan y Llywydd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
11.2a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd er mwyn tynnu
sylw at bwysigrwydd rôl y Cynulliad o ran craffu ar Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol.
Cyfarfod: 17/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth (Memorandwm rhif 4): Diwygiad i Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 mewn perthynas â diogelu chwythwyr chwiban yn y GIG
NDM5722 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau
Bach, Menter a Chyflogaeth, sy'n ymwneud â gwahardd cyflogwr yn y GIG rhag
gwahaniaethu yn erbyn ymgeisydd sydd wedi chwythu'r chwiban o'r blaen ac sy'n
darparu rhwymedïau, gan gynnwys dyfarnu iawndal, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html (Saesneg yn unig)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.06
NDM5722 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth, sy'n
ymwneud â gwahardd cyflogwr yn y GIG rhag gwahaniaethu yn erbyn ymgeisydd sydd
wedi chwythu'r chwiban o'r blaen ac sy'n darparu rhwymedïau, gan gynnwys
dyfarnu iawndal, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 15/01/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 13/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – gwelliant i Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1954 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 2)
NDM5655 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y gwelliannau i'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n
ymwneud â thenantiaethau busnesau yn y cartref, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd
2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8
Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Mae copi o'r Bil ar wefan
Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html
(Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2)
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 2)
Adroddiad
y Pwyllgor Menter a Busnes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.28
NDM5655 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y gwelliannau i'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud
â thenantiaethau busnesau yn y cartref, i'r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd
2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8
Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 13/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – taliadau ymadael y sector cyhoeddus (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 3)
NDM5656 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter
a Chyflogaeth sy'n ymwneud â thaliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau
y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Mae copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html
(Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3)
Adroddiad
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.32
NDM5656 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n
ymwneud â thaliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Tachwedd
2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 11/12/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)
10 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3): y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth
Dogfennau ategol:
- CELG(4)-33-14 Papur 5 (Saesneg yn unig), Eitem 10 PDF 127 KB
- CELG(4)-33-14 Paper 6, Eitem 10 PDF 280 KB
Cofnodion:
10.1 Trafododd y
Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Busnesau
Bach, Menter a Chyflogaeth.
Cyfarfod: 03/12/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
8 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3): y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/1)
- Cyfyngedig 23 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/2)
Cofnodion:
8.1
Ystyriodd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Busnesau
Bach, Menter a Chyflogaeth.
8.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurhad ar faterion
penodol.
Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
Trafodwyd gan y Pwyllgor y Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth.
Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – darpariaethau sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant
NDM5627 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant, i'r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html
(Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.19
NDM5627 Julie James (Gorllewin
Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6,
yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter
a Chyflogaeth sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant, i'r graddau y maent yn dod
o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 18/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth - darpariaethau sy'n ymwneud â chymorth allforio
NDM5617 Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach,
Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud â chymorth allforio, i'r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Gorffennaf 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html
(Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.29
NDM5617 Edwina Hart
(Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6,
yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach,
Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud â chymorth allforio, i'r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth - Gohiriwyd
Cyfarfod: 24/09/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 36