Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1.)

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13:00

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar ôl cwestiwn 2.


Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol.

E&S(4)-32-15 Papur 7

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/10/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gyffredinol: Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Carl Sargeant AM,  Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio

Matthew Quinn, Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Gweinidog a swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol:

 

  • Caniatâd ynni: Nodyn ar y rhesymeg ar gyfer y terfyn 350MW ar gyfer datganoli pwerau caniatâd ynni yn y dyfodol.
  • Cynllunio morol: Nodyn ar gyfarwyddeb cynllunio morol newydd y Comisiwn Ewropeaidd.
  • Ansawdd dŵr: Y meini prawf ar gyfer asesu a oes gan gorff o ddŵr 'statws ecolegol da'.
  • Ansawdd dŵr: Darparu cymhariaeth o'r ffigur o 42 y cant ar gyfer cyrff o ddŵr yng Nghymru sy'n sicrhau statws ecolegol da gyda chanran y cyrff o ddŵr mewn gwledydd eraill yn y DU a rhannau eraill o'r UE sy'n sicrhau statws ecolegol da.
  • Adolygiad Arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru: Manylion am y cynnydd yn gweithredu'r saith argymhelliad na chânt eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys amserlen ar gyfer cwblhau'r argymhellion hyn.

 


Cyfarfod: 30/04/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Craffu ariannol: Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

E&S(4)-12-15 Papur 9

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 26/03/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

E&S(4)-10-15 Papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 04/03/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a'r Môr

Matthew Quinn, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio

Tony Clark, Pennaeth Cyllid,  Adnoddau Naturiol

 

E&S(4)-07-15 Papur 1

E&S(4)-07-15 Papur 1 Atodiad

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Cytunodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i:

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor mewn perthynas â’r prisiau a delir gan Sipsiwn a Theithwyr am ynni a dwr, gan gynnwys sut y gallen nhw fanteisio ar raglenni Arbed a Nyth;

·         Egluro ystyr ‘hunan-adrodd’ mewn perthynas ag Arbed a Nyth; a

·         Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ynglyn â chyflwyno deddfwriaeth i gyfyngu maint cychod pysgota yn yr ardal 0-6 milltir môr.

 


Cyfarfod: 23/10/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog yn dilyn cyfarfod 17 Medi

E&S(4)-25-14 papur 6

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.5 Nododd y Pwyllgor y papur.

 


Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

E&S(4)-20-14 papur 1

 

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Matthew Quinn, y Cyfarwyddwr Cyfoeth Naturiol

Prys Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr: Yr Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i:

 

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu nodyn cynhwysfawr ar yr agenda polisi bioamrywiaeth.

·         Ystyried cyhoeddi adroddiad yr archwiliad a wnaed i gamau gweithredu bioamrywiaeth a gynhaliwyd gan adrannau’r Llywodraeth.

·         Ystyried darparu dangosyddion perfformiad allweddol/data gwaelodlin a ddefnyddir i fesur canlyniadau’r Cynllun Adfer Natur.

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda gwybodaeth am y pwyntiau a nodwyd gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch nwy siâl / ffracio.

·         Ystyried gwneud datganiad wedi’i ddiweddaru ar safbwynt y Llywodraeth ar nwy siâl / ffracio.

·         Darparu’r siart llif i’r Pwyllgor a ddefnyddir gan y Llywodraeth yn ymwneud â’r prosesau cynllunio mewn cysylltiad â ffracio.

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda’r diweddaraf am raglen Ynni’r Fro, gyda’r ffigurau sydd ar gael.

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor i roi eglurhad ar eithriad y Goron yn ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru.

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor yn rhoi manylion am y dyddiad y cyhoeddir y Strategaeth Ddŵr, a darparu nodyn ar gynnydd y pum argymhelliad a dderbyniwyd mewn egwyddor.