Cyfarfodydd
Diogelwch Ystâd y Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/07/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Heddlu De Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth gefndir, y gofynnwyd amdani yn eu cyfarfod ym mis Mai, am gynnwys y
Cytundeb Lefel Gwasanaeth sydd ar waith rhwng y Comisiwn a Heddlu De Cymru, ac
esboniad o sut mae’r Cytundeb wedi datblygu i ymateb i dirwedd risg sy’n newid.
Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diogelwch ffisegol
Papur 4 –
Gwelliannau Diogelwch Ffisegol (mynediad)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad i’r
Comisiynwyr am ddatblygiad arfaethedig protocolau diogelwch, a materion sydd
wedi codi’n ddiweddar mewn cysylltiad â diogelwch. Byddai gwybodaeth yn cael ei
darparu i’r Comisiynwyr ei hystyried ac yna ei rhannu gyda’u grwpiau.
Trafododd y
Comisiynwyr gynigion i wneud gwelliannau i wella trefniadau diogelwch yn y
mannau mynediad cyhoeddus yn y Senedd a Thŷ Hywel, a chytunwyd arnynt, gan
gynnwys hynny yn y gwaith o gynllunio’r gyllideb.
Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Gwelliannau o ran Diogelwch Amddiffynnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr
gynigion i wneud gwelliannau i'r diogelwch amddiffynnol mewn mannau mynediad
cyhoeddus.
Y cynnig yw gwella
diogelwch yr ystâd trwy ddarparu lefel briodol o ddiogelwch ac oedi ar y prif
fynedfeydd cyhoeddus. Byddai'r cynigion yn addasu’r ddwy fynedfa.
Cytunodd y Comisiynwyr i
ofyn am farn eu grwpiau ar y newidiadau posibl.
Cytunodd y Comisiynwyr na
ddylid cyhoeddi'r papur.
Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch
Eitem lafar
Cofnodion:
Ar gais y Comisiynwyr, darparwyd diweddariad ar ddiogelwch ffisegol a
seiber. Nododd y Comisiynwyr fod ymwybyddiaeth o risgiau a phrotocolau
diogelwch yn agwedd bwysig ar fod yn ddiogel ac y dylai’r holl Aelodau a’u
staff gael eu hannog i fanteisio ar y hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch
sydd ar gael.
Cyfarfod: 17/09/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Gosod Teledu Cylch Cyfyng newydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr gynigion i osod system Teledu Cylch Cyfyng newydd
ar Ystâd y Cynulliad, gan ofyn am ragor o wybodaeth i'w galluogi i wneud
penderfyniad terfynol.
Cyfarfod: 09/07/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Amnewid teledu cylch cyfyng
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19
Cofnodion:
Ystyriodd y
Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi’r gofyniad i amnewid y system teledu cylch
cyfyng.
Roedd y
Comisiwn yn cefnogi’r angen i wneud y gwaith a chytunwyd y dylid cyflwyno achos
busnes manwl iddynt ym mis Medi.
Cyfarfod: 23/04/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Sesiwn friffio ar yr adolygiad o’r Gwasanaeth Diogelwch
Papur 3
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am adolygiad llawn o'r trefniadau diogelwch
sydd eisoes yn bodoli. Roeddent yn ystyried y strategaeth ddiogelwch, y cynnydd
gyda gwaith cyfredol, materion sy'n weddill a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Gofynnodd y Comisiynwyr am sicrwydd bod y trefniadau diogelwch yn briodol,
yn effeithiol ac yn ymateb i anghenion sy'n newid. Pwysleisiodd y Comisiynwyr y
pwysigrwydd bod ein trefniadau diogelwch yn cael eu defnyddio mewn modd
sensitif, o ystyried statws ystâd y Cynulliad fel adeiladau cyhoeddus agored a
chroesawgar.
Tynnodd y Comisiynwyr sylw at arwyddocâd y rôl y mae angen i unigolion ei
chymryd o ran eu diogelwch eu hunain a phwysleisiwyd pa mor bwysig ydyw i holl
Aelodau'r Cynulliad, eu Staff Cymorth a staff y Comisiwn weld y cyflwyniad
'Stay safe'.
Cyfarfod: 05/03/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch
Cofnodion:
Rhoddodd Dave
Tosh y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch gan gyfeirio at gwmpas y briff mwy
sylweddol ym mis Ebrill.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch
Papur i
ddilyn
Cofnodion:
Rhoddodd Simon Rees gyflwyniad ar ddiogelwch i’r Comisiwn
ac roedd tua 300 o staff y Cynulliad wedi’i weld yr wythnos gynt. Paratowyd
canllawiau ychwanegol i gyd-fynd â’r fideo a’r cyflwyniad. Roedd y Comisiynwyr
yn awyddus i sicrhau bod pawb a oedd yn gweithio yn ein hadeiladau’n cael gwybodaeth
ddigonol am y mater. Cadarnhawyd bod cynlluniau’n cael eu paratoi i’r Aelodau,
grwpiau plaid a staff cymorth weld y fideo a’r canllawiau cyn gynted â phosibl
dros yr wythnosau nesaf.
Yn dilyn y cyfarfod ar 29 Ionawr, cafwyd rhagor o
wybodaeth gan Heddlu De Cymru am sicrhau diogelwch yr ystâd. Trafododd y
Comisiwn y rhain. Cytunodd y Comisiynwyr y dylid bwrw ymlaen â’r gwaith o
gryfhau diogelwch ar unwaith a chytunwyd ar gynllun cyfathrebu â’r heddlu.
Gofynnodd y Comisiynwyr am bapur llawnach ar faterion
diogelwch, gan gynnwys archwilio cefndir unigolion, a chaiff hwn ei gyflwyno
yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Ebrill.
Cyfarfod: 29/01/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch - Eitem lafar
Cofnodion:
Cafodd y
Comisiwn sesiwn friffio diogelwch, a bydd yn ystyried amrywiaeth o opsiynau mewn
cysylltiad â diogelwch ar y safle. Penderfynodd y Comisiynwyr drafod y mater
eto yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror.
Cyfarfod: 17/12/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 3)
Sesiwn friffio ar ddiogelwch
Cyflwyniad
Cofnodion:
Yn sgil digwyddiadau diogelwch rhyngwladol diweddar, estynnodd y Bwrdd
Rheoli groeso i gynrychiolwyr yr heddlu i drafod y lefel bresennol o fygythiad
yn y DU a sut y gellir lliniaru unrhyw risg bosibl. Roedd hyn yn cynnwys rhoi’r
wybodaeth angenrheidiol i staff er mwyn eu helpu i fod yn ddiogel pe bai
digwyddiad yn codi, gan mai blaenoriaeth y Comisiwn yw diogelwch yr Aelodau a’r
staff. Gwyliodd y Bwrdd fideo, ‘Stay Safe’ – canllaw yn llawn gwybodaeth
a gaiff ei gynhyrchu gan y Swydddfa Gartref, am yr hyn y dylid ei wneud mewn
ymosodiad â gynnau.
Er bod trefniadau diogelwch y Comisiwn eisoes yn dda, byddai’r Bwrdd Rheoli
yn gweithredu ar gyngor arbenigol y tîm Diogelwch a’r Heddlu er mwyn parhau i
sicrhau diogelwch yr Aelodau a’r staff. Cytunwyd y bydd y tîm Diogelwch ac
aelodau o’r Bwrdd Rheoli yn llunio cynllun ar gyfer ymateb i ymosodiad â
gynnau.
Cyfarfod: 29/09/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diogelwch yr Ystâd
papur 5
Cofnodion:
Trafododd y Comisiwn faterion
yn ymwneud â diogelwch yr ystâd.
Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Dynodiad posibl yr ystâd fel safle gwarchodedig - Papur 6
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Trafododd y
Bwrdd Rheoli bapur drafft i'r Comisiynwyr ei ystyried yn eu cyfarfod ar 29
Medi, yn ymwneud â diogelwch yr ystâd.
Cyfarfod: 03/07/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Gwasanaethau'r Heddlu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
Eitem lafar
Cofnodion:
Mae gan y
Comisiwn Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Heddlu De Cymru ac, o dan y cytundeb
hwn, mae'n cael cefnogaeth sy'n cynnwys uned benodedig ar safle'r Cynulliad.
Cafodd y Comisiynwyr gyflwyniad gan yr Arolygydd Ian Mackenzie ar yr amrywiaeth
o wasanaethau a ddarperir o dan y cytundeb.
Nid oedd unrhyw bapurau ar gyfer y cyfarfod hwn.