Cyfarfodydd

P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ystyried bod cytundeb wedi bod o ran gwrthrych y ddeiseb, penderfynodd gau’r ddeiseb ar y sail, os bydd y sefyllfa’n newid yn y dyfodol, y gellir cyflwyno deiseb arall.

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

  • er mwyn hwyluso gwaith pellach ar y cynigion a nodir yn llythyr y deisebwyr, y byddai’n ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad ynghylch pwy y dylai’r deisebwyr weithio gydag ef yn awr i ddatblygu eu cynigion; ac
  • i ofyn i'r Gweinidog a fyddai modd i’w swyddogion gysylltu â'r deisebwyr i roi cymorth ac arweiniad.

 

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a

·         Chyngor Sir Ceredigion

 

i geisio eu barn am y ddeiseb.