Cyfarfodydd

P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i'w chau.

 


Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei barn ar sylwadau pellach y deisebydd, yn arbennig p'un a roddir ystyriaeth i sicrhau newidiadau'n ôlweithredol, os yw'r dystiolaeth yn gwarantu hynny.

 

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ddiweddariad brys ar y mater a gofyn am eglurhad ar:

 

·         a oes gwaith ar y gweill i ddiwygio'r Effaith Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010 yn dilyn adroddiad Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw a'r ymgynghoriad dilynol (fel y nodwyd i Gyngor Twristiaeth Cymru); ac

·         yng ngoleuni hyn i egluro'r datganiad ym mharagraff olaf ei llythyr ar 10 Hydref fod '... gweithdrefnau sydd ar waith ar hyn o bryd yn ddigonol ac nid oes angen gweithredu pellach.'

 


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gynghrair Twristiaeth Cymru, sef 'Llais y Diwydiant Twristiaeth' yng Nghymru, i ofyn a yw'n rhannu pryderon y deisebydd neu a all gynnig unrhyw sicrwydd.  

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb.