Cyfarfodydd

P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers i’r deisebydd gysylltu ddiwethaf a'r ffaith bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd camau i sefydlu senedd ieuenctid Cymru ar hyn o bryd.

 


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • aros am farn y deisebydd cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach; ac
  • ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gofyn am wybodaeth am ymrwymiadau a roddwyd gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar y mater hwn yn ystod sesiwn dystiolaeth ddiweddar gyda'r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2015 - P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth gyda Phlant yng Nghymru a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i ofyn:

 

·         a oes unrhyw gynnydd pellach wedi’i wneud i sefydlu corff ieuenctid cynrychiadol i olynu y Ddraig Ffynci; ac

·         am wybodaeth am unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd mewn perthynas â’r materion a godwyd yn y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Catriona Williams OBE – Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru

 

Lynne Hill – Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru

 

Ed Janes – Swyddog Datblygu (Cyfranogiad), Plant yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y tystion a ganlyn gwestiynau gan y Pwyllgor:

 

·         Catriona Williams OBE – Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru

·         Lynne Hill – Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru

·         Ed Janes – Swyddog Datblygu (Cyfranogiad), Plant yng Nghymru

 

 

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2014 - P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i geisio hwyluso ffordd ymlaen sy’n cynnwys partneriaid fel:

 

·         Plant yng Nghymru

·         Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi;

·         Comisiynydd Plant Cymru, a

·         Chynrychiolydd o Gomisiwn y Cynulliad.

 


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Tricia Jones, Jack Gillum, Catherine Jones ac Anne Crowley, cynrychiolwyr y Ddraig Ffynci, gwestiynau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth yn unol â chais y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth lafar mewn lleoliad anffurfiol gyda’r Ddraig Ffynci, y Comisiynydd Plant, Plant yng Nghymru a chynrychiolydd o Gomisiwn y Cynulliad i geisio gweld a ellir canfod ffordd i ddarparu llwyfan cynrychioliadol cenedlaethol parhaus ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

 

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi;  
  • y Llywydd, yn ei rôl fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad;
  • Comisiynydd Plant Cymru, a
  • Plant yng Nghymru

 

i geisio eu barn am y ddeiseb.