Cyfarfodydd

P-04-584 Bil Cynllunio Cymru i Ddiogelu Meysydd Tref a Phentref yng Nghymru.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/01/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Deiseb P-04-584 Bil Cynllunio Cymru i Ddiogelu Meysydd Tref a Phentref yng Nghymru: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

E&S(4)-02-15 Papur 4

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-584 Bil Cynllunio Cymru i Ddiogelu Meysydd Tref a Phentref yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

·         i gau'r ddeiseb gan fod y Bil Cynllunio (Cymru) wedi cael ei gyflwyno yn y Cynulliad ar 6 Hydref ac y mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar hyn o bryd yn craffu arno yng Nghyfnod 1; ac

·         wrth gau'r ddeiseb, i ofyn i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ystyried y ddeiseb wrth adrodd i'r Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-584 Bil Cynllunio Cymru i Ddiogelu Meysydd Tref a Phentref yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.