Cyfarfodydd

P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni eglurhad y Gweinidog na all Llywodraeth Cymru'n gyfreithlon wahardd cnydau GM yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Dirprwy Weinidog ymateb i sylwadau'r deisebydd a hefyd i egluro'r gwrth-ddweud ymddangosiadol rhwng polisi Llywodraeth Cymru i gynnal dull cyfyngol a gofalus o ran tyfu cnydau GM a barn yr Asiantaeth Safonau Bwyd nad oes unrhyw reswm i dybio bod porthiant anifeiliaid GM yn peri mwy o risg i dda byw ar ffermydd o'i gymharu â phorthiant anifeiliaid confensiynol; a

·         chysylltu â Chlerc y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd am y gwaith blaenorol ar y mater, er mwyn ei rannu gyda'r deisebydd.

 



Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.