Cyfarfodydd

P-04-574 Bws ym Mhorth Tywyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-574 Bws ym Mhorth Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

·         i gau'r ddeiseb gan ei bod yn glir bellach mai penderfyniad gweithredol i’r awdurdod lleol dan sylw yw’r mater hwn; ac

·         er nad yw’n cymryd unrhyw gamau penodol pellach o ran y ddeiseb hon, byddai’n ei chadw mewn cof wrth ystyried deisebau eraill ar wasanaethau bysiau 'isranbarthol' y bydd y Pwyllgor yn gweithio arnynt.

 

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-574 Gwasanaethau Bws ym Mhorth Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn am ei farn ar yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-574 Gwasanaethau Bws ym Mhorth Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb.