Cyfarfodydd

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)

Dadl ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 - Dyletswydd i Adolygu - Adroddiad Terfynol

NDM5971 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnwys Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu Asesiad Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Dogfen Ategol

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) - Dyletswydd i Adolygu – Adroddiad Terfynol

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.49

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5971 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnwys Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu Asesiad Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

2. Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.

3. Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 04/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu o ran Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

NDM5709 David Rees (Aberafan)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2015.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2015.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.08

NDM5709 David Rees (Aberafan)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2015.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2015.

The motion was agreed in accordance with Standing Order 12.36.


Cyfarfod: 10/12/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 10/12/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 


Cyfarfod: 20/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 20/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dr Sarah Watkins, Is-adran Grwpiau Iechyd Meddwl ac Agored i Niwed / Uwch Swyddog Meddygol

Andrea Gray, Rheolwr Deddfwriaeth Iechyd Meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau.

 


Cyfarfod: 08/10/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Trafod y dystiolaeth ysgrifenedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig.