Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Seilwaith

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Seilwaith: Darpariaethau ar gyfer Rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol

NDM5533 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith, sy'n ymwneud â dileu a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol drwy gytundebau a gorchmynion rheoli rhywogaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

 

Gellir cael copi o'r Bil Seilwaith yma:

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/infrastructure.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.54

NDM5533 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith, sy'n ymwneud â dileu a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol drwy gytundebau a gorchmynion rheoli rhywogaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynghylch y Bil Seilwaith: Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon i lythyr gan y Cadeirydd ar 21 Gorffennaf

E&S(4)-20-14 papur 6

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 17/07/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11)

11 Cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynghylch y Bil seilwaith

E&S(4)-19-14 papur 12

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Nododd y Pwyllgor y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y pwyntiau a nodwyd gan NFU Cymru.