Cyfarfodydd

P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel yn difetha ein cymuned

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 – Ffermydd Gwynt a Llinellau Pŵer Foltedd Uchel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i’w chau.

 


Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-324 Dywedwch na i TAN 8 - mae ffermydd gwynt a llinellau pŵer foltedd uchel yn difetha ein cymuned

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgîl cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r deisebwyr a oes ganddynt sylwadau cloi i’w gwneud cyn ystyried cau’r ddeiseb yn yr hydref.

 


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel yn difetha ein cymuned

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y ddeiseb nes ei fod yn gwybod beth yw canfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi ynni a chynllunio.


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 - Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel yn difetha ein cymuned

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

·         Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn a fyddai’n ystyried cynnal ymchwiliad pellach i’r materion a godir yn y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel yn difetha ein cymuned

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

Datganodd Russell George fuddiant yn y ddeiseb, a datganodd William Powell fuddiant yn y maes.

Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor y byddai dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn cael ei gynnal ar y pwnc yn y Cyfarofd Llawn ar 22 Mehefin 2011.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·       Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gofyn am ei sylwadau ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb.

·       Ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Ynni a Newid Hinsawdd y DU yn gofyn am ei sylwadau ar y materion sy’n deilllio o’r ddeiseb. 

·       Ysgrifennu at Cyfeillion y Ddaear i ofyn eu barn ar y ddeiseb.