Cyfarfodydd

P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 -04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebu.

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r deisebydd a oes ganddo unrhyw sylwadau ar yr ymchwiliad y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd; ac

·         aros am ganlyniad ystyriaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.  

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ofyn bod y ddeiseb yn cael ei hystyried yng ngwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar lywodraethu byrddau iechyd yn GIG Cymru.

 

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.6a Er nad yw hwn yn fater y mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei ystyried ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i hysbysu'r Pwyllgor Deisebau fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal darn o waith ar lywodraethiant byrddau iechyd yn GIG Cymru. Cytunodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i aros am ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw cyn ystyried y mater ymhellach.

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am sylwadau’r Gweinidog ar gais y deisebydd i ofyn am ymchwiliad cyhoeddus; a

·         thynnu’r deiseb at sylw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gofyn a oes ganddynt unrhyw gynlluniau i edrych ar y mater. 

 


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.