Cyfarfodydd
Craffu ar waith y Gweinidog Tai ac Adfywio
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)
Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Tai ac Adfywio - trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
10.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y
dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio ar
y pwyntiau a godwyd.
Cyfarfod: 19/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Tai ac Adfywio
Carl Sargeant AM, Gweinidog
Tai ac Adfywio
John Howells, Cyfarwyddwr Yr
Adran Tai ac Adfywio
Kath Palmer, Dirprwy
Cyfarwyddwr Yr Is-Adran Cartrefi a Lleoedd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, a’i swyddogion.
2.2. Yn ystod y sesiwn, cytunodd y
Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:
- eglurhad o’r diffiniad technegol o ‘dai fforddiadwy’,
fel y cyfeirir atynt mewn perthynas â thargedau, a nodyn ar y
gwahaniaethau rhwng defnydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o’r term
"fforddiadwy";
- nodyn yn cynnwys dadansoddiad o statws pob awdurdod
lleol mewn perthynas â’u dyddiadau targed o ran cwblhau Safon Ansawdd Tai
Cymru, gan gynnwys manylion am unrhyw awdurdod na fydd, o bosibl, yn
cyrraedd y targed;
- dadansoddiad manwl o’r ffigurau ar gyfer y cynllun
rhannu ecwiti ‘Cymorth i Brynu’ ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru;
- nodyn ar y cynlluniau busnes a’r prosiectau o fewn
portffolio’r Gweinidog sy’n ymwneud â’r gronfa gofal canolraddol a’r
canlyniadau a ddisgwylir;
- manylion am adolygiad Adran 180 o’r Rhaglen Grantiau
Digartrefedd, pan fo’r rhain ar gael;
- canlyniad y newidiadau i’r rhaglen ‘cefnogi pobl’, yn
dilyn y toriad o £5 miliwn a godwyd wrth graffu ar y gyllideb ar gyfer
2014/15 fis Tachwedd y llynedd.