Cyfarfodydd

P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-565 Adfywio Hen Reilffyrdd Segur at ddibenion Hamdden

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog a chytunwyd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-565 Adfywio Hen Reilffyrdd Segur at ddibenion Hamdden

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae hi’n rhan o ymgyrch i ailagor Twnnel y Rhondda.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y deisebydd a chytunwyd i:

·         Ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pryd y mae’n disgwyl adolygiad Sustrans i mewn i Dwnnel y Rhondda gael ei gwblhau; a

·         Rhoi gwybod i’r deisebydd bod yr Adran Briffyrdd yn berchen ar dwneli rheilffordd eu hunain yng Nghymru ac efallai y byddai am gysylltu â nhw yn uniongyrchol.

 

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar yr ohebiaeth gan y Gweinidog a Sustrans.

 


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         Ofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a allai’r Ddeddf Teithio Byw (Cymru) 2013 ddarparu dull o fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn y ddeiseb; ac

·         ysgrifennu at SUSTRANS i gael eu sylwadau.

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y prif ddeisebydd.

 

 


Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am eu barn am y ddeiseb.