Cyfarfodydd

P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd Aelodau ymatebion i adroddiad cryno'r Pwyllgor ar ei drafodaeth o'r ddeiseb hyd yma a chytunodd i gau'r ddeiseb, yn sgil ei gasgliad ei bod hi'n well mynd i'r afael â materion heb eu datrys drwy'r prosesau craffu lleol sy'n mynd rhagddynt.  Wrth wneud hynny, roedd Aelodau yn dymuno diolch i'r deisebydd am ei amser a'i ddiwydrwydd drwy gydol ystyriaeth y Pwyllgor o'r mater hwn.

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Trafod crynodeb - P-04-564 Adfer gwlâu i gleifion, gwasanaeth mân anafiadau ac uned pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y crynodeb drafft a diwygiadau pellach, a chytunodd i'w cyhoeddi wedi iddynt gael eu cwblhau.

 

 


Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Trafod crynodeb - P-04-564 Adfer gwlâu i gleifion, gwasanaeth mân anafiadau ac uned pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor grynodeb o’i ystyriaeth o'r ddeiseb yn y gorffennol a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried faint o ohebiaeth fanwl a gafwyd gan bob parti yn ystod y tair blynedd diwethaf, cytunodd i baratoi crynodeb o drafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb, yn cynnwys ei fyfyrdodau a'i gasgliadau, a'i rannu hwnnw â Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r deisebydd yn gynnar yn nhymor yr Hydref.

 

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn am ei sylwadau ar yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor Iechyd Cymunedol a'r Pwyllgor Meddygol Lleol, ynghyd â:

o   Nodi'r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol ynghylch gwasanaethau i'w cynnig gan y ganolfan iechyd newydd yn Blaenau o haf 2017;

o   Gofyn a yw'r Bwrdd Iechyd yn ystyried y bydd y Ganolfan yn cynnig y lefel o ofal lleol a ragwelir gan Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid yn 2012;

o   Gofyn sut yr eir i'r afael â'r diffyg parhaus canfyddedig o welyau cleifion a'r anhawster recriwtio meddygon teulu yn yr ardal;

o   Ei safbwynt o ran y diffyg cartrefi nyrsio cofrestredig yn yr ardal neu gartrefi gofal sy'n gallu darparu gofal ar raddfa lai.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i roi gwybod iddynt am y ddeiseb a gofynna fyddai'n helpu gydag unrhyw beth o'u gwaith cyfredol.

 

 

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-564 Adfer gwlâu i gleifion, gwasanaeth mân anafiadau ac uned pelydr-X yn Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymunedol i ofyn am ei farn am yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ceisio cael copi o gasgliadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar ofal iechyd yn ardal Ffestiniog er mwyn llywio rhagor o drafodaeth gan y Pwyllgor ynghylch y ddeiseb hon; ac
  • ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.

 

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ac, fel y gofynnwyd gan y deisebwyr, cytunodd i gadw’r ddeiseb ar agor ac i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet a’r deisebwyr eto yn ddiweddarach yn yr hydref i gael adroddiad ar gynnydd.

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i rannu sylwadau'r deisebydd â'r Gweinidog ac yna ystyried cau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.3.

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.13.

 


Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-x i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog hysbysu'r Pwyllgor o ddatblygiadau ar y cyfleusterau iechyd newydd ar gyfer Blaenau Ffestiniog a'r cynnydd gan y byrddau iechyd wrth ymateb i'r adroddiad ar yr astudiaeth o ofal iechyd yng nghanolbarth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

·         i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; ac

·         i ystyried y ddeiseb yn y dyfodol ochr yn ochr â P-04-466 (gwasanaethau iechyd gogledd Cymru) a P-04-479 (Ysbyty Coffa Tywyn), sy'n codi nifer o'r un materion.

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog a’r Bwrdd Iechyd ystyried ac ymateb i farn y deisebwyr a nodwyd yn eu sylwadau, yn enwedig mewn perthynas â’r adroddiad a gynigiwyd gan yr Athro Marcus Longley. 

 

 


Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn am y ddeiseb; a

·         Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

i ofyn eu barn am y ddeiseb.