Cyfarfodydd
Cynllun Ieithoedd Swyddogol - Y Pedwerydd Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/12/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd a gofynion adrodd blynyddol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Croesawodd
y Bwrdd Sarah Dafydd, y Rheolwr Newid a Gwella Busnes yn y Gwasanaeth Cyfieithu
a Chofnodi, i drafod y Cynllun Ieithoedd
Swyddogol newydd cyn ei gyflwyno i'r Comisiwn ar 23 Ionawr. Roedd y sefydliad
wedi gwneud yn dda ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth ac roedd y Cynllun newydd yn
adeiladu ar y llwyddiannau hynny ac yn pennu llwybr i fod yn wirioneddol
ddwyieithog erbyn 2021.
Cynhaliwyd
ymgynghoriad, yn ôl y gofyniad yn y Ddeddf, gyda'r Aelodau, staff,
Rhwydweithiau ac Ochr yr Undebau Llafur, a'r cyhoedd drwy'r wefan a chyda
phartïon â diddordeb, ac roedd barn yr ymgyngoreion wedi helpu i lunio'r
Cynllun drafft newydd. Yn gyffredinol, roedd y sylwadau yn gefnogol, gan
gydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma, er bod adborth gan y Gymdeithas wedi nodi
nad oedd y Cynllun yn mynd yn ddigon pell. Y prif bryder a fynegwyd gan rai
aelodau o staff oedd cyflwyno sgiliau iaith ar gyfer pob swydd newydd, gyda
gofyniad yn ymwneud ag o leiaf cwrteisi ieithyddol sylfaenol. Ochr yn ochr â'r
Cynllun, cafodd Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ei baratoi i sicrhau nad
oedd y cynnig yn peryglu ceisiadau swyddi gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Gan
ystyried yr adborth, roedd y Cynllun drafft yn cynrychioli cam i fyny o ran
darparu gwasanaethau ac ymagwedd gytbwys tuag at gyflawni ein huchelgeisiau
dwyieithog.
Y nod
fyddai defnyddio'r cynlluniau iaith i weithio allan anghenion pob maes
gwasanaeth mewn ffordd ddeallus a recriwtio yn unol â hynny, gan gyfateb lefel
y cymhwysedd dwyieithog i'r gwasanaeth sydd ei angen. Byddai'r gofyniad
ieithyddol sylfaenol yn cael ei sefydlu gyda swyddi newydd i ddechrau, ac yna'n
cael ei ddatblygu gyda staff presennol. Byddai cefnogaeth lawn a dulliau
amrywiol ar gyfer hyfforddiant ar gael er mwyn helpu staff i gyrraedd y lefel
ofynnol. Roedd tystiolaeth o brofiad sefydliadau
eraill wedi'i hystyried wrth lunio'r cynlluniau. Cydnabuwyd ei bod yn dal i fod
yn anodd dod o hyd i dechnoleg sy'n wirioneddol ddwyieithog.
Gofynnodd
y Bwrdd Rheoli am geisio sicrwydd allanol ar yr Asesiad o'r Effaith ar
Gydraddoldeb.
Cyfarfod: 15/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad
NDM5818
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
pharagraff 8(8) o Atodlen 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi’r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun
Ieithoedd Swyddogol y Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2015.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.24
NDM5818 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006:
Yn nodi’r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun
Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2015.
Derbyniwyd
y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 02/02/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Strategaeth ac Archwiliad Sgilliau Dwyieithog
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Cyflwynodd Mair Parry-Jones y Strategaeth Sgiliau
Dwyieithog, a oedd yn un o ofynion y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, er mwyn
sicrhau bod y sgiliau dwyieithog priodol ar gael ar draws y meysydd gwasanaeth i gefnogi gofynion y
Cynllun. Roedd archwiliad sgiliau wedi cael ei baratoi i ddarganfod lefelau
sgiliau iaith staff ac i lywio cynlluniau iaith pob maes gwasanaeth yn y
dyfodol.
Gofynnwyd i'r Bwrdd Rheoli adolygu a chymeradwyo'r
Strategaeth a'r Archwiliad. Roedd yn
bwysig i'r Bwrdd lunio a llwyr gefnogi amcanion y Strategaeth. Byddai'r
fersiynau terfynol yn cael eu cymeradwyo gan Gomisiynydd y Cynulliad sydd â
chyfrifoldeb dros Ieithoedd Swyddogol.
Cytunodd y Bwrdd y dylai ffocws yr Archwiliad fod ar
sgiliau'r iaith Gymraeg, gan gynnwys lefelau hyder unigolion i ddefnyddio'r
sgiliau hynny. Byddai'r Archwiliad yn fater sensitif i rai staff ac, felly,
roedd yn bwysig bod digon o sicrwydd o fewn yr arolwg ei hun yn ogystal â
chynllun cyfathrebu clir wrth ei gyflwyno.
Argymhellodd y Bwrdd y dylid ei dreialu ymhellach er mwyn profi sampl o
staff i sicrhau bod y data a ddychwelir yn ddefnyddiol.
Camau i’w cymryd: Mair
Parry-Jones a Craig Stephenson i sicrhau eglurder a gwell llif ar gyfer
amcanion y Strategaeth. Y ffurflen archwilio sgiliau i'w diwygio fel y
trafodwyd gyda'r camau nesaf, cynllun cyfathrebu a fersiynau diwygiedig i'w
hystyried ymhellach gan y Bwrdd Rheoli.
Cyfarfod: 16/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl ar Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ynghylch y Cynllun Ieithoedd Swyddogol
NDM5556
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff
8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun
Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.53
NDM5556 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar
Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 18/06/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol
papur 3
Cofnodion:
Yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd
Swyddogol) 2012 mae'n ofynnol i'r Comisiwn lunio Cynllun Ieithoedd Swyddogol.
Bob blwyddyn, mae'n rhaid i'r Comisiwn osod adroddiad gerbron y Cynulliad yn
nodi sut y mae wedi rhoi'r Cynllun ar waith yn ystod y flwyddyn adrodd.
Byddai'r adroddiad ar gyfer 2013-14 yn cael ei osod gerbron y Cynulliad i'w
drafod ar 16 Gorffennaf.
Nododd y Comisiynwyr fod cynnydd da wedi'i wneud yn ystod y
flwyddyn a chymeradwywyd y staff am eu cyflawniadau yn y meysydd hyn, gan
gynnwys:
- lansio Microsoft Translator;
- datblygu ffyrdd gwahanol o gefnogi'r Aelodau gyda'u gwaith
pwyllgor;
- hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i holl staff Comisiwn y Cynulliad;
- y gwaith a wnaed gan gydgysylltwyr y Cynllun Ieithoedd
Swyddogol ym mhob maes gwasanaeth; a
- chymorth gwell ar gyfer gwaith achos etholaethol dwyieithog
yr Aelodau.
Cytunwyd ar y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i sicrhau
arfer da ymhellach ym mhob rhan o'r sefydliad. Pwysleisiodd y Comisiynwyr
bwysigrwydd y Cynllun yn cefnogi'r nod o wneud y Cynulliad yn sefydliad
dwyieithog ac arwain y ffordd o ran datblygu gwasanaethau dwyieithog. Dylid
rhannu arfer gorau pan fo'n bosibl fel y gall eraill ddysgu o brofiad y
Cynulliad o gefnogi gweithlu dwyieithog.