Cyfarfodydd
Unrhyw fater arall – Bwrdd Rheoli
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/03/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Y cyfarfod hwn
oedd yr olaf ar ffurf gyfredol y Bwrdd Rheoli cyn newid i'r Tîm Arwain a'r
Bwrdd Gweithredol.
Cyfarfod: 08/02/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 11)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Unrhyw fater arall
Caiff y
cyfarfod nesaf ei gynnal ar 5 Mawrth.
Cyfarfod: 11/01/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 11)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Rhoddodd Dave
amlinelliad o gyfarfod strategaeth yr uwch dîm ym mis Rhagfyr, a oedd yn gyfle
i drafod yr adolygiad capasiti yn estynedig, ynghyd â strwythur y sefydliad a'r
camau nesaf. Ystyriwyd y berthynas hefyd a chyfrifoldebau gwneud penderfyniadau
y Bwrdd Rheoli a'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau ac roedd Manon Antoniazzi yn paratoi
papur cynnig.
Nododd y
Llywydd ei bod yn awyddus i edrych ar y posibilrwydd i fynd â'r Cyfarfod Llawn
i leoliad arall yng Nghymru. Byddai angen amserlen dros dro yng ngwanwyn 2020 a
byddai angen cronfeydd ychwanegol i gefnogi hynny, pe byddai'n mynd yn ei
flaen. Dave Tosh ac Adrian Crompton i roi asesiad o oblygiadau cost ac adnoddau
i'r Comisiwn eu hystyried.
Cynhelir y
cyfarfod nesaf ar 8 Chwefror.
Cyfarfod: 07/12/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Llongyfarchodd
Manon bawb a fu’n gysylltiedig â pharatoi araith y Llywydd yn narlith flynyddol
Canolfan Llywodraethiant Cymru ar 6 Rhagfyr.
Cynhelir y
cyfarfod nesaf ar 11 Ionawr.
Cyfarfod: 13/11/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 12)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cynhelir y
cyfarfod nesaf ar 7 Rhagfyr.
Cyfarfod: 23/10/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 11)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cynhelir
cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 13 Tachwedd.
Cyfarfod: 09/10/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 23 Hydref a byddai'n cael ei ymestyn i gynnwys
y busnes dan sylw; gan ddefnyddio cyfarfodydd anffurfiol y Bwrdd Rheoli ar
ddydd Mawrth i ystyried eitemau os oes angen.
Cyfarfod: 18/09/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cafwyd cais
gan Kathryn Hughes i ddiweddaru Cynlluniau Gwasanaethau Corfforaethol.
Cyfarfod: 15/08/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Dymunodd y Bwrdd longyfarchiadau i Elisabeth Jones ar ennill y radd uchaf o
ragoriaeth yn ei arholiad Cymraeg.
Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 11)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Rhoddodd Chris Warner wybod i'r Bwrdd bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi
cadarnhau ei bod wedi sefydlu archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Diolchodd i
bawb a gyfrannodd at y gwaith hwnnw.
Cyfarfod: 06/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7.)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 22/06/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Mae'r Bwrdd Archwilio a
Sicrwydd Risg wedi trafod y berthynas rhwng y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau a'r
Bwrdd Rheoli yn dilyn yr adroddiad archwilio mewnol ar effeithiolrwydd.
Bydd y Prif Weithredwr a'r
Cyfarwyddwyr yn rhoi rhagor o ystyriaeth i hyn ac yn cyflwyno'r drafodaeth i'r
Bwrdd Rheoli wedi hynny.
Cyfarfod: 04/05/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Rhoddodd Manon Antoniazzi y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am nifer o
ddatblygiadau diweddar:
·
newid i amserlen
cyfarfodydd y Comisiwn ar gyfer mis Mehefin a mis Gorffennaf;
·
y broblem gyda'r
meicroffon a oedd wedi digwydd yn y Cyfarfod Llawn; a
·
chynlluniau ar
gyfer cyfres o gyfleoedd i staff gyfarfod â hi cyn diwedd tymor yr haf, gan
gynnwys cyfarfod ar gyfer yr holl staff a digwyddiad anffurfiol ddydd Gwener 21
Gorffennaf, cyfarfodydd anffurfiol ar raddfa lai, a chynnig i ddod i
gyfarfodydd tîm. Cafodd y Bwrdd Rheoli ei wahodd i gyfrannu unrhyw negeseuon
allweddol.
Roedd y Llywydd wedi cael nodyn briffio ar effaith Gŵyl a
Chynghrair Pencampwyr UEFA ym Mae Caerdydd a byddai cyfarfod mewn perthynas â
pharhad busnes yn cael ei drefnu gyda'r Penaethiaid Gwasanaeth ar gyfer yr
wythnos yn dechrau 15 Mai i drafod y trefniadau.
Cyfarfod: 02/03/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Byddai’r Adroddiad Rheolaeth Ariannol diweddaraf yn cael
ei ddosbarthu cyn bo hir. Atgoffodd Claire aelodau’r Bwrdd i sicrhau bod eu
meysydd gwasanaeth yn darparu darlun cywir iawn o wariant ar gyfer gweddill y
flwyddyn ariannol.
Cyfarfod: 02/02/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Byddai cylch arall o waith
cynllunio capasiti ym mis Mawrth. Gofynnwyd i'r Penaethiaid Gwasanaeth ddarparu
manylion i Nia Morgan ynghylch unrhyw eitemau a fydd yn effeithio ar
gostau. Bydd Lowri Williams a Gareth
Watts yn darparu gwybodaeth at ddibenion paratoi ar gyfer y broses hon maes o
law.
Bydd y cyfarfod nesaf, sef
sesiwn her ar y Datganiad Llywodraethu, yn cael ei gynnal ar 6 Chwefror. Bydd
Hugh Widdis, un o gynghorwyr annibynnol y Cynulliad, yn bresennol.
Cyfarfod: 12/01/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 2 Chwefror.
Cyfarfod: 14/11/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cadarnhaodd Non Gwilym y bydd Dippy y Diplodocws, y deinosor mwyaf enwog yn
y DU sydd yn yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain ar hyn o bryd, yn mynd ar
daith o fis Ionawr 2016, ac y bydd yn y Senedd yn 2019.
Hysbyswyd y Bwrdd bod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i swydd y Prif
Weithredwr bellach wedi mynd heibio ac y bydd asiantaeth recriwtio Penna yn
cyflwyno pecyn rhestr hir i'r panel ei adolygu ar 21 Tachwedd.
Cyfarfod: 03/11/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Byddai Gareth Watts yn dosbarthu’r polisi risg newydd, ar gyfer cael
sylwadau arno cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
ar 21 Tachwedd.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 12 Rhagfyr.
Cyfarfod: 10/10/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw fater arall. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 3
Tachwedd 2016.
Cyfarfod: 14/07/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Nodwyd bod Strategaeth y Comisiwn ar gyfer y Pumed
Cynulliad wedi cael ei lansio a bod neges ar gyfer y fewnrwyd wedi’i pharatoi i
dynnu sylw at y newid i’r datganiad bwriad. Gofynnwyd i’r Penaethiaid roi
gwybod i’w timau y dylent gychwyn gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i
lenyddiaeth, cyfeirnodau rhyngrwyd, llofnodion negeseuon e-bost, ac ati.
Roedd y Llywydd wedi cyhoeddi darn i feddwl amdano
ynghylch diwygio materion trefniadol. Byddai papur ar gynigion posibl ar gyfer
newid enw’r Cynulliad yn cael ei gyflwyno i’r Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 19
Medi.
Mae’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon wedi cael eu
gosod ac mae gwaith ar y gweill i baratoi ar gyfer sesiwn dystiolaeth y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 19 Medi.
Byddai’r Bwrdd Rheoli yn cyfarfod nesaf yn anffurfiol
ar ddiwrnod cyntaf y tymor newydd, sef 9 Medi, a bydd cyfarfod ffurfiol ar 10
Hydref ar gyfer y sesiwn cynllunio capasiti blynyddol.
Cyfarfod: 20/06/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 14
Gorffennaf, ar ôl y diwrnod cwrdd i ffwrdd ar 8 Gorffennaf i drafod yn fanwl yr
heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r Cynulliad a'r Comisiwn ar ddechrau'r Pumed
Cynulliad.
Cyfarfod: 12/05/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Er mwyn symud ymlaen â phrosiect y system gyllid,
gofynnwyd i'r Bwrdd roi adborth ar y strwythur codio i Lisa Bowkett cyn gynted
â phosibl.
Cyhoeddodd y tîm Ymchwil ai adroddiad 'Materion o
Bwys' heddiw.
Gofynnodd Claire Clancy i'r Penaethiaid ddiolch i'w timau
a rhoi gwybod iddynt ei bod yn falch iawn o'u gwaith mewn perthynas â'r gwaith
o bontio i'r Pumed Cynulliad.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 20 Mehefin.
Cyfarfod: 14/04/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 13)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Dywedodd
Chris Warner wrth y Bwrdd y byddai drafft cyntaf o’r Adroddiad Blynyddol ar
gael ar gyfer ei adolygu a rhoi sylwadau arno erbyn 22 mis Ebrill, a byddai
Anna Daniel yn dosbarthu drafft diwygiedig o strategaeth y Comisiwn.
Dywedodd
Dave Tosh fod y gwaith o uwchraddio’r Siambr bellach ar ddod i ben.
Cynhelir
cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 12 Mai.
Cyfarfod: 07/03/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cafodd y Bwrdd adborth da am y Penwythnos i'r Teulu yn
y Senedd ar 5-6 Mawrth i ddathlu deng mlynedd ers ei agor, a ddenodd dros 3000
o bobl.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 14 Ebrill.
Cyfarfod: 25/01/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 12)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Byddai cyfarfod nesaf y
Bwrdd Rheoli ar 22 Chwefror yn cael ei neilltuo i ystyried datganiadau sicrwydd
cyfarwyddiaethau i baratoi ar gyfer y Datganiad
Llywodraethu blynyddol.
Cyfarfod: 07/12/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir cyfarfod nesaf y
Bwrdd Rheoli ar 25 Ionawr.
Cyfarfod: 02/11/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
9.1 Adroddiad Rheolaeth Ariannol - roedd yr
adroddiad ar gyfer mis Hydref wedi cael ei baratoi a dywedodd Claire Clancy
wrth y Bwrdd fod y rhagolwg diwedd blwyddyn ar hyn o bryd yn awgrymu
tanwariant. Byddai’r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn craffu ar y gyllideb yn
fanwl yn ei gyfarfod nesaf ac yn gwneud penderfyniadau buddsoddi priodol.
9.2 Adolygiadau Perfformiad a Datblygu Rheolwyr -
ar ddydd Gwener 30 Hydref, roedd 79% o’r staff wedi cwblhau eu hadolygiadau.
9.3 Gorchymyn etholiadau - dywedodd Non Gwilym
fod y tystysgrifau a dderbyniwyd gan y Swyddogion Canlyniadau yn rhoi gwybod
i’r Cynulliad am Aelodau etholedig ar adeg eu hethol, nawr yn gallu cael eu
llofnodi a’u hanfon ymlaen yn electronig.
9.4 Diolchodd y Bwrdd i Lowri Williams a’i thîm
am yr holl ymdrech a wnaed o ran y gwaith polisi a thâl a’r paratoadau ar gyfer
y cyfarfod.
9.5 Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 23
Tachwedd.
Cyfarfod: 05/10/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 10)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cafodd y Bwrdd Rheoli eu
hatgoffa mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno data dangosyddion perfformiad
corfforaethol oedd 7 Hydref.
Cynhelir cyfarfod nesaf y
Bwrdd Rheoli ar 2 Tachwedd.
Cyfarfod: 06/07/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Rhoddodd Bedwyr Jones y
wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am lansio’r system deleffoni newydd, a oedd
wedi cael adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr.
Byddai’r Bwrdd Rheoli yn
cwrdd nesaf ar 13 Gorffennaf 2015.
Cyfarfod: 15/06/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Dywedodd Bedwyr Jones wrth y Bwrdd y byddai’r
system ffôn newydd yn fyw ar 6 Gorffennaf.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 6
Gorffennaf.
Cyfarfod: 01/06/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynlluniau gwasanaeth - bydd y cynlluniau'n cael
eu hadolygu yn y cyfarfod ar 15 Mehefin a dywedodd Dave Tosh wrth y Penaethiaid
bod angen mwy o waith ar adnabod dibyniaethau a disgrifiadau risgiau dros
gyfnod y cynlluniau.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 15 Mehefin
Cyfarfod: 23/03/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon - Mae Kathryn Potter a Nicola Callow yn
paratoi'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2014-15. Mae drafft
cychwynnol yn cael ei baratoi, gyda'r themâu: gwelliant parhaus, newid a
gwasanaethau effeithlon.
Cam i’w gymryd: Bwrdd Rheoli i ddarparu penawdau blaenoriaeth
ar gyfer beth ddylid ei gynnwys erbyn diwedd yr wythnos.
Diweddariad diogelwch – Ar ôl y sesiynau Stay Safe, mae staff
Diogelwch a Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau wedi archwilio'r llwybrau ymadael
diogel ac ati ar gyfer meysydd gwasanaeth. Cynhaliwyd sesiynau pellach gyda
rhai timau i siarad am y materion a godwyd yn y sesiwn Stay Safe, gyda rhagor i
ddilyn.
FiYw Cymraeg– Bydd fersiwn Gymraeg FiYw yn cael ei lansio
ddydd Gwener 27 Mawrth. Y Cynulliad oedd y cyntaf yng Nghymru i gael system
Northgate dwyieithog.
Adnoddau prosiect a rheoli
newid – Roedd Dave Tosh wedi dosbarthu cynigion a gofyn am sylwadau ar a oedd
yn gwneud synnwyr, a oedd yn gwneud beth oedd ei angen, a beth oedd y camau
nesaf.
Cam i’w
gymryd: Bwrdd Rheoli
i ddarparu adborth cyn gynted â phosibl.
Paratoi
adroddiad perfformiad corfforaethol – Mae angen dychwelyd y set nesaf o wybodaeth a data ar Ddangosyddion
Perfformiad Allweddol, ar gyfer yr Adroddiad Perfformiad Corfforaethol, at
Kathryn Hughes erbyn 17 Ebrill 2015. Gofynnodd Dave Tosh i benaethiaid
gwasanaeth sicrhau eu hunain am gywirdeb ac 'ymdeimlad' y ffurflenni hyn cyn eu
hanfon i Kathryn.
Rhagolwg diwedd y flwyddyn – Dywedodd Nicola Callow nad oedd y rhagolygon
wedi newid llawer ers 12 Mawrth ac roedd yn rhagweld tanwariant bach ar ddiwedd
y flwyddyn. Gofynnwyd i'r Bwrdd Rheoli roi gwybod cyn gynted â phosibl os oedd
unrhyw newidiadau yn eu rhagolygon.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 27
Ebrill.
Cyfarfod: 09/03/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 23
Mawrth.
Cyfarfod: 02/02/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 26
Chwefror a bydd yn canolbwyntio ar sesiwn herio'r Datganiad Llywodraethu blynyddol.
Cyfarfod: 19/01/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 10)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Roedd y Pwyllgor Archwilio
a Sicrwydd Risg yn cyfarfod ar 9 Chwefror a gofynnwyd i'r Bwrdd Rheoli sicrhau
bod yr holl gamau archwilio wedi'u cwblhau cyn hynny.
Ar ôl dosbarthu'r
canllawiau asesu effaith ar gydraddoldeb, cadarnhaodd y Bwrdd eu bod yn hapus
gyda'r dull arfaethedig a gofynnwyd iddynt enwebu aelod o staff yn eu meysydd i
gysylltu â'r tîm cydraddoldeb.
Cynhelir cyfarfod nesaf y
Bwrdd Rheoli ar 2 Chwefror.
Cyfarfod: 17/12/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 3)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Dymunodd y Bwrdd yn dda i Virginia Hawkins ar ei secondiad 12 mis yn
Nhŷ'r Arglwyddi wrth iddi ymgymryd â rôl Rheolwr Prosiect, yr Adolygiad
Tâl a Graddfeydd.
Rhoddodd Claire Clancy
wybod i'r Bwrdd am ganlyniad Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin mewn perthynas â rôl
y Prif Weithredwr a'r Clerc, pwyllgor yr oedd hi a'r Llywydd wedi cyflwyno
tystiolaeth iddo. Rhoddodd drosolwg
hefyd o'i chyfarfod gyda Chlercod Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban.
Byddai'r Bwrdd Rheoli yn cwrdd nesaf ar eu diwrnod cwrdd i ffwrdd ar 8
Ionawr 2015.
Cyfarfod: 24/11/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Cloi'r cyfarfod
Cofnodion:
Unrhyw fater arall
Rhoddodd Chris Warner a Mike Snook y
wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Rheoli am ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Swyddfa
Archwilio Cymru ar 5 Tachwedd, sef 'Same Picture, Different Lens'. Bwriad y
digwyddiad hwn oedd dwyn ynghyd arweinwyr yn y sector cyhoeddus i drafod heriau
ynghylch sut i sicrhau gwerth gorau a sut y gallai asiantaethau gydweithio'n
well. Dylid nodi bod y digwyddiad yn crybwyll dulliau arloesol o gyfleu
negeseuon a roddwyd gan wahanol Gomisiynwyr, gan gynnwys gwasanaeth sibrwd
(crynodeb mewn iaith blaen ac ar y sgrin) a bwrdd lluniau.
Cyhoeddodd Mair Parry-Jones fod Anna
Gruffudd wedi'i phenodi'n diwtor Cymraeg newydd ar gyfer staff mewnol. Mae'r
rôl hon yn ychwanegol i'r gwasanaeth presennol a roddir gan ddarparwr allanol.
Bydd y penodiad hwn yn caniatáu i'r sefydliad ddarparu gwasanaeth mwy hyblyg.
Anogwyd y Penaethiaid i wahodd Anna i'w cyfarfodydd tîm.
Bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli, ar 24 Tachwedd, yn cael ei ddefnyddio
ar gyfer y Bwrdd Adolygu a Chynllunio blynyddol, a hynny er mwyn ystyried
cynlluniau gwasanaeth, rheoli perfformiad a datblygiad staff, a rhagamcanion ar
gyfer cyllidebau a galw yn y dyfodol.
Cyfarfod: 20/10/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir
cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 6 Tachwedd.
Cyfarfod: 09/10/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 20 Hydref.
Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 13)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Rhoddodd Mike Snook adroddiad ar y gwaith a gwblhawyd dros yr haf i wella'r
ystâd gan ddweud bod y Cynulliad wedi ennill Gwobr y Ddraig Werdd am reolaeth
amgylcheddol unwaith eto eleni. Roedd y polisi sabothol bellach wedi'i gwblhau
ac roedd yn barod i'w lansio.
Dywedodd Siân Wilkins a
Chris Warner wrth y Bwrdd fod cynhadledd y clercod wedi mynd yn dda a bod y
rhai a oedd yn bresennol wedi canmol y digwyddiad.
Roedd cyfarfod yn cael ei drefnu i'r Bwrdd Rheoli drafod canlyniad
refferendwm yr Alban a'i effaith ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 9 Hydref.
Cyfarfod: 14/07/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Rhoddodd Mike Snook y newyddion diweddaraf am y polisi
Sabothol, a oedd yng nghamau olaf yr adolygiad ohono, cyn y caiff ei ddosbarthu
i’r Bwrdd Rheoli (gyda nifer dangosol o staff). Yn dilyn hyn, byddai’n cael ei
rannu gyda’r Undebau Llafur.
Cadarnhaodd Chris Warner y byddai’r polisi interim ar
Ddiogelu ar gael cyn lansio’r prosiect Ymgysylltu â Phobl Ifanc ar 16
Gorffennaf. Byddai rhagor o waith i’w integreiddio â pholisïau eraill, i godi
ymwybyddiaeth ohono, ac i ddarparu hyfforddiant.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 15 Medi.