Manylion y penderfyniad
Dadl ar Ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion Comisiynydd y Gymraeg ar safonau iaith Gymraeg
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.40
NNDM5176 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. yn nodi:
(a) bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi penderfynu peidio symud
ymlaen gyda safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r
Gymraeg;
(b) bod y Gweinidog nawr yn bwriadu adeiladu ar ymgynghoriad
Comisiynydd y Gymraeg, i ddatblygu cyfres o safonau a fydd yn sefydlu hawliau i
siaradwyr Cymraeg, o ran gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg; ac
(c) bod y Gweinidog yn bwriadu gwneud, gyda chymeradwyaeth y
Cynulliad Cenedlaethol, rheoliadau yn gwneud y gyfres gyntaf o safonau, a
gwneud y safonau hynny yn benodol gymwys i bersonau, erbyn diwedd 2014.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu ein bod, dros ddwy flynedd ar ôl pasio Mesur y
Gymraeg (Cymru) 2011, yn parhau i fod yn bell iawn o fabwysiadu cyfres ffurfiol
o safonau ar gyfer gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Llywydd
ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio
yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen weithredu
fanwl ar gyfer cyflwyno safonau iaith Gymraeg erbyn 2014.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NNDM5176 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. yn nodi:
(a) bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi penderfynu peidio
symud ymlaen gyda safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r
Gymraeg;
(b) bod y Gweinidog nawr yn bwriadu adeiladu ar ymgynghoriad
Comisiynydd y Gymraeg, i ddatblygu cyfres o safonau a fydd yn sefydlu hawliau i
siaradwyr Cymraeg, o ran gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg; ac
(c) bod y Gweinidog yn bwriadu gwneud, gyda chymeradwyaeth y
Cynulliad Cenedlaethol, rheoliadau yn gwneud y gyfres gyntaf o safonau, a
gwneud y safonau hynny yn benodol gymwys i bersonau, erbyn diwedd 2014.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen weithredu
fanwl ar gyfer cyflwyno safonau iaith Gymraeg erbyn 2014.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 06/03/2013
Dyddiad y penderfyniad: 05/03/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad