Manylion y penderfyniad
Statement by the Minister for Local Government and Communities: Introduction of the Local Government (Democracy) (Wales) Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Llywodraeth a gyflwynwyd gan Carl Sargeant, y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Yn dilyn newid ym mhortffolios
gweinidogion ym mis Mawrth 2013, awdurdodwyd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog
Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, gan Brif Weinidog Cymru fel yr Aelod
newydd sy’n Gyfrifol am y Bil, o 18 Mawrth 2013 ymlaen. Anfonodd y Pwyllgor
Busnes y Bil at y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
Gwybodaeth am y Bil
Bwriad darpariaethau'r Bil oedd diwygio trefniadaeth a swyddogaethau'r Comisiwn
Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru. Roedd y Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau a
oedd yn diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â
chyfrifoldebau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a strwythur
pwyllgorau archwilio yr awdurdodau lleol.
Cyfnod presennol
Daeth Deddf
Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru
(gwefan allanol) ar 30 Gorffennaf 2013.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r tabl a ganlyn yn nodi'r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy
Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Bethan Davies
Ffôn: 0300 200 6565
Cyfeiriad Postio:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
E-Bost: cysylltu@cynulliad.cymru
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15:01
Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2012
Dyddiad y penderfyniad: 27/11/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad