Manylion y penderfyniad
Debate on the Health and Social Care Committee's Inquiry into the Contribution of Community Pharmacy to Health Services in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor
Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i’r cyfraniad a
wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd ym mis Mai 2012. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a
ganlyn:
Ymchwilio i ba mor
effeithiol oedd contract Fferylliaeth Gymunedol i wella cyfraniad fferylliaeth
gymunedol i wasanaethau iechyd a lles, yn cynnwys:
- y graddau y mae Byrddau
Iechyd Lleol wedi cymryd y cyfleoedd a ddarparwyd trwy’r contract i
ymestyn gwasanaethau fferylliaeth drwy ddarparu gwasanaethau “gwell”, ac
enghreifftiau o gynlluniau llwyddiannus;
- graddfa’r gwasanaethau “uwch”
a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol a pha mor ddigonol ydynt;
- y posibilrwydd o ddarparu
rhagor o wasanaethau gan fferyllfeydd cymunedol yn ychwanegol at roi
meddyginiaethau a dyfeisiau’r GIG, gan gynnwys y posibilrwydd o gael
cynlluniau ar gyfer mân anafiadau;
- effaith bresennol ac effaith
bosibl ehangu gwasanaethau fferylliaeth gymunedol ar y galw am
wasanaethau’r GIG mewn sefyllfaoedd gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ac
unrhyw arbedion cost y gallant eu cynnig;
- hynt y gwaith a wneir ar hyn
o bryd i ddatblygu gwasanaethau fferylliaeth gymunedol.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth ar y pwnc hwn.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad ym mis Mai 2012. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2012.
Cafwyd trafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar 11
Gorffennaf 2012.
Gwaith dilynol y Pwyllgor
Yn y gwanwyn yn 2014, cytunodd y Pwyllgor i wneud galwad wedi'i dargedu am dystiolaeth gan y
rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol, ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu argymhellion
y Pwyllgor.
Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn
dystiolaeth lafar gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar 24 Medi 2014.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei lythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ym mis Tachwedd 2014. Mae'r llythyr yn nodi'r meysydd allweddol lle y mae angen
rhagor o waith ym marn y Pwyllgor. Cafodd y Pwyllgor ymateb
i’w lythyr ym mis Rhagfyr 2014.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.47
NDM5033 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i'r
cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru,
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 12/07/2012
Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad