Manylion y penderfyniad

Dadl ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2016-17

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 o safbwynt strategol a chyffredinol.

 

Gweithiodd hefyd gyda pwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau bod cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol yn cael eu hystyried yn fanwl. Cynhaliodd y pwyllgorau sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn archwilio i’r agweddau ar y gyllideb sy’n dod o dan eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn gwnaethant adrodd yn ôl i ni gan amlinellu unrhyw bryderon oedd ganddynt.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Cyllideb Ddrafft ar gyfer 2016-17 ar 8 Rhagfyr 2015.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad cyhoeddus i gynigion y gyllideb ddrafft rhwng 9 Rhagfyr 2015 a 7 Ionawr 2016.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid adroddiad ar ei waith Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru Ddrafft 2016-17 (PDF, 1MB) ar 2 Chwefror 2016.

 

Cynhaliwyd dadl ar y gyllideb ddrafft yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Chwefror 2016.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid (PDF, 608KB) ar 6 Mawrth 2016.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5986 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:

Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 1 Mawrth 2016.

Troednodyn:

Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;

4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a

5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

5

22

55

Derbyniwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 09/03/2016

Dyddiad y penderfyniad: 08/03/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad