Manylion y penderfyniad

Dadl ar Ail Gyllideb Atodol 2015-16

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol.

Gweithiodd hefyd gyda pwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau bod cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol wedi cael eu hystyried yn fanwl. Cynhaliwyd y pwyllgor sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn archwilio i’r agweddau ar y gyllideb daeth o dan eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn adrodd yn ôl i ni gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.

 

Cynhaliodd y pwyllgor ymgynghoriad ar gynigion cyllideb ddrafft y llywodraeth rhwng Gorffennaf 2014 i Fedi 2014.

 

Isod ceir adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft, ynghyd â gohebiaeth berthnasol i’w waith craffu.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5967 Jane Hut (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 9 Chwefror 2016.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

i. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

ii. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a

v.cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

27

55

Derbyniwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 09/03/2016

Dyddiad y penderfyniad: 08/03/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad