Manylion y penderfyniad

Dadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Bwrdd Rheoli

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

Diben:

Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol yn y Cynulliad ac mae Comisiwn y Cynulliad yn rhoi arweiniad cryf ac uchelgeisiol wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Nodi y Cynulliad yw bod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Mae’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn nodi’r hyn y mae’r Cynulliad yn ei ddarparu’n ddwyieithog a’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud yn y maes hwnnw. Cafodd y Cynllun ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2013 ac mae’n seiliedig ar Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.

 

Dyma brif flaenoriaethau’r Cynllun:

  • darparu cymorth arloesol sydd wedi’i deilwra er mwyn galluogi pobl i ddefnyddio’r ddwy iaith;
  • gwneud y defnydd gorau o dechnoleg;
  • datblygu sgiliau a hyder staff y Cynulliad i ddarparu’r cymorth hwnnw yn Gymraeg;
  • rhannu’r hyn sy’n gweithio i ni â gweddill Cymru a’r byd amlieithog tu hwnt.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

NDM5818 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

 

Yn nodi’r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2015

Dyddiad y penderfyniad: 15/07/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad