Manylion y penderfyniad
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a
Busnes ymchwiliad i ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
Y cylch gorchwyl
- Pa wersi y gellir eu dysgu o'r fasnachfraint
bresennol?
- Pa flaenoriaethau y gellir eu nodi i sicrhau
bod gwasanaethau i deithwyr rheilffyrdd yng Nghymru a'r gororau yn
darparu'r gwasanaeth gorau posibl i deithwyr o 2018 ymlaen?
- Sut y gall gwasanaethau ar ôl 2018 sicrhau
cysylltedd a gwerth am arian i deithwyr a lleihau baich ar y trethdalwyr?
Y materion allweddol
Mae'r materion y mae'r Pwyllgor yn eu hystyried fel rhan o'r cylch gwaith
hwn yn cynnwys:
- A yw'r fasnachfraint bresennol yn diwallu
anghenion teithwyr a pha wersi y gellir eu dysgu ohoni?
- Sut y dylid cynnwys teithwyr yn y gwaith o
ddatblygu a chyflawni'r fasnachfraint?
- Sut y dylid cynnwys cymunedau a llywodraeth
leol / Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol? A ellid eu cynnwys yn y gwaith
o bennu'r fasnachfraint neu hyd yn oed ddarparu gwasanaethau?
- Pa fodel rheoli y dylid ei fabwysiadu, gan
gynnwys cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint ddi-ddifidend?
- Sut y dylai manyleb y fasnachfraint wella
profiad teithwyr, gan gynnwys materion fel hyd y fasnachfraint, targedau /
cymhellion a'r safonau gwasanaeth craidd y dylid eu cynnwys?
- Pa lwybrau, yn arbennig llwybrau
trawsffiniol, y dylid eu cynnwys?
- Pa gerbydau y bydd eu hangen ar gyfer y
fasnachfraint newydd? Pa ffactorau y mae angen eu hystyried a sut y dylid
caffael y cerbydau hyn? A fydd angen cerbydau newydd?
- A oes angen rheilffyrdd ychwanegol, gwella
rheilffyrdd presennol, gorsafoedd newydd neu seilwaith arall?
- A oes modd i'r fasnachfraint gefnogi gwell
perthynas rhwng Network Rail a gweithredwr y fasnachfraint a pha
fanteision posibl a ddaw yn sgil hyn?
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.02
NDM5437 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar
yr Ymchwiliad i Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 19/02/2014
Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad