Manylion y penderfyniad
P-04-480 Mynd i'r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Galwn ar
Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i ymchwilio i’r problemau a nodwyd yn yr adroddiad
diweddar am yr arolwg o dai
yn Aberystwyth yn 2012. Cododd yr adroddiad bryderon
ynghylch safon wael llety myfyrwyr
a’r ffordd wael, sy’n cyfateb
i hynny, y caiff myfyrwyr eu trin
yn y sector rhentu preifat. At hynny, galwn ar Lywodraeth
Cymru i gynnal ymgynghoriad
llawn ac agored ynghylch y mater angof hwn gyda’r cymunedau
y mae hyn
yn effeithio arnynt, yn ogystal
â sicrhau bod deddfwriaeth
tai bresennol a mesurau newydd gan yr
awdurdodau perthnasol yn cael eu
dilyn yn gywir er mwyn
cynorthwyo i godi safonau yn y sector rhentu preifat.
Mae tai myfyrwyr wedi bod yn broblem
gyson yn Aberystwyth ers blynyddoedd. Cynhaliwyd arolwg ymysg myfyrwyr ynghylch eu profiadau
o ran tai ac mae manylion am y problemau maent yn eu
hwynebu wedi’u cynnwys mewn adroddiad
a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2012.
Prif ddeisebydd: Aberystwyth Students Union
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
14 Mai 2013
Nifer y llofnodion : 188
Penderfyniadau:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i;
·
Ysgrifennu at y rhanddeiliaid a ganlyn i gael eu
barn am y mater:
o
Accreditation Network UK
o
Addysg
Uwch Cymru
o
Association of Letting and Management
Agents
o
Cartrefi
Cymunedol Cymru
o
CLlLC
/ Cymdeithas y Cyfarwyddwyr
Addysg
o
Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl
o
Cymdeithas
Genedlaethol Landlordiaid
o
Cyngor ar Bopeth
o
Cyngor
Ceredigion
o
Cynllun
Achredu Landlordiaid
o
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
o
Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
o
Shelter Cymru
o
Undeb
Cenedlaethol y Myfyrwyr
o
Y Sefydliad Tai Siartredig; ac
o
ymgynghoriad
ysgrifenedig llawn ar agor i’r
cyhoedd, yn canolbwyntio ar ymgysylltu â myfyrwyr
·
ysgrifennu
at y Gweinidog Tai ac Adfywio
yn tynnu sylw at bryderon y deisebwyr, yn arbennig
o ran yr amser a roddwyd i’r Bil
Tai; a
·
threfnu
sesiwn dystiolaeth lafar unwaith y bydd yr ymatebion
wedi dod i law.
Dyddiad cyhoeddi: 18/07/2013
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: