Manylion y penderfyniad
Dadl Cyfnod 3 ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), o dan Reol Sefydlog 26.44
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (leithoedd Swyddogol), Bil y Comisiwn, a gyflwynwyd gan
Rhodri Glyn Thomas, Comisiynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am y Gymraeg. Mae’r
Pwyllgor Busnes wedi rhoi’r gwaith o graffu ar y Bil i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol.
Gwybodaeth am y Bil
Diben y Bil oedd
nodi dyletswyddau’r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad mewn
perthynas â darparu gwasanaethau dwyieithog yn glir ar sail statudol.
Cyfnod presennol
Daeth Deddf
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 yn gyfraith yng Nhgymru ar
12 Tachwedd 2012 (gwefan allanol).
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy
Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dogfennau |
Cyflwyno’r Bil –
30 Ionawr 2012 |
|
Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion
cyffredinol |
|
Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion
cyffredinol |
|
Penderfyniad Ariannol |
|
Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau |
Memorandwm
Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF 556KB)
Tystiolaeth Ategol gan Gomiswn y Cynulliad
(PDF 90KB) |
Cyfnod 3 - Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau |
Rhestr
o Welliannau Wedi’u Didoli: 3 Hydref 2012 (PDF 66KB) Grwpio
Gwelliannau: 3 Hydref 2012 (PDF 62KB) |
Cyfnod 4 - Pasio’r Bil yn y Cyfarfod Llawn |
Bil
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), fel y’i pasiwyd (PDF
64KB) |
Dyddiad Cydsyniad Brenhinol |
|
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Gareth Williams
Ffôn: 0300 200 6565
Cyfeiriad Postio:
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
E-bost: cysylltu@cynulliad.cymru
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:02
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn
y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio
atynt yn codi yn y Bil.
Cafodd y gwelliannau eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodwyd
yn ôl y grwpiau
a ganlyn:
1. Cyfieithu Cofnodion o Drafodion y Cynulliad
1, 5
2. Cyhoeddi Cofnodion o Drafodion y Cynulliad
9
3.Penodi Swyddog Cyfrifol
6
4. Ystyr y Ddarpariaeth
2
5. Darpariaethau y mae’n rhaid eu cynnwys
yn y Cynllun
10, 11, 12
6.Gwasanaethau a
ddarperir o dan y Cynllun
7, 8
7. Ymgynghori ar y Cynllun
3, 4
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
1 |
36 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
48 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
32 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
11 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 12.
Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion
Cyfnod 3 i ben.
Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2012
Dyddiad y penderfyniad: 03/10/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad